Pysgodyn hir sarffaidd heb esgyll pelfig o urdd yr Anguillidae sy'n mudo o ddŵr croyw i ddŵr hallt i silio ydy'r llysywen sy'n enw benywaidd; lluosog: llysywod (Lladin: Anguilla anguilla; Saesneg: European eel).
Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Rhywogaeth mewn perygl difrifol' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]
Cysylltiadau â phobl
"Erbyn hyn yr oeddwn i'n edrych i ddyfnderau'r llyn. ‘A oes llysywod ynddi?’ gofynnais. “Mi ddeliais i un y llynedd oedd â digon o gig arni i’r fedel am ddau ddiwrnod. ’A fling'soch chi hi?’ gofynnais. ‘Wel do, wrth gwrs, ac mi werthais ei chroen hi i lady o Lundain am bum punt.’ ‘Beth y mae'r ladies yn ei wneud â chrwyn llysywod?’ gofynnais mewn syndod. ‘O groen llysywen y maen' nhw'n cael careiau i'w hesgidiau gorau,’ oedd yr ateb di-wrid; ‘ac y mae careiau croen llysywen yn para am oes,’ ychwanegodd.”[2]
'Slywen, llysywen: pysgodyn môr sydd yn gallu byw o fewn dŵr croyw, yn wahanol i'r eog a'r sewin sydd yn bysgod dŵr croyw sydd yn gallu byw yn y môr. Mae pob slywen dros 40cm yn fenywaidd. Nid ydynt mor gyffredin nawr. Enw arall yw llysywen rawn:
"a freshwater eel often found in horse ponds. . . Believed to develop from horses tails. Notion that if 'rhawn' (horsetails) be pulled out by the root and put in the pond it will grow into eels"[3]”
"Pan oeddwn (DB) yn fachgen yn y 1950-60au bu’n arfer gennym ymweld â phistyll Cerrig y Rhyd, Betws Garmon i weld y miloedd o ’slywod bach yn berwi yn y dŵr ar eu taith rhwng Môr y Sargasso a blaenau’r Wyrfai".[2] Ar ôl holi preswyliwr o naturiaethwr sydd wedi croesi pont Cerrig y Rhyd yn ddyddiol i'w gartref dros 30 mlynedd, dywedodd yn 2018 nad oedd erioed wedi gweld y ffenomenon, er iddo glywed amdani sawl tro gan frodorion yr ardal. (Mae'n hysbys bod yslywod wedi prinhau yn arw dros y cyfnod dan sylw i'r graddau bod pryder mawr ynghylch ei dyfodol).
Mae Llyn Gelli Gain ('Llugan' ar lafar) ym mhlwy Trawsfynydd yn 1,300' o uchder uwchben y môr, felly syndod oedd o i mi ddarllen mewn llyfr teithiau cerddedangen ffynhonnell fod y lle'n enwog am lyswennod ers talwm (glywais i erioed hynny o'r blaen - penhwyad yn bendant, fel Llyn Peic oeddan i'n nabod y lle fel plant). Un nant fach sydd yn rhedeg ohoni i'r Afon Gain tua 450' yn îs i lawr yng Nghwm Dolgain - felly oes 'na bosibilrwydd fod llyswennod wedi bod yno rhyw dro wybodusion?[4]
Graffiti diddorol wedi ei naddu gyda phwyll a sgil ar Bont Talyrni ar Afon Nanmor, ger Hafod Garregog. Beryg bod na ddim sliwod y maint yma yn yr afon bellech! Yr unig ddyddiadau (yn y ddelwedd o leiaf, gw. y ddolen) ar y graig yw 1900 a 1933.[5]