Sling

Sling
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.181456°N 4.093815°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Erthygl am y pentref yw hon. Am yr arf (Saesneg: sling) gweler ffon-dafl.

Pentref bychan bychan yng Ngwynedd yw Sling ("Cymorth – Sain" ynganiad ) . Mae'n gorwedd uwchben Dyffryn Ogwen yn Arfon, rhwng Mynydd Llandygái a Thregarth. Gan amlaf mae'n cael ei gyfrif yn rhan o bentref Tregarth, ond mae'n gorwedd ar wahân tua hanner milltir i fyny o'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]

Lleolir yr ysgol gynradd leol ar gyfer Tregarth a Mynydd Llandygai, Ysgol Bodfeurig, yn Sling.

Ystyr y gair benthyg o'r Saesneg sling yw "llain neu stribyn hirgul o dir, yn amlach na pheidio ar ymyl terfyn neu ffordd",[3] a dyna yn union leoliad Sling, yn stribyn o bentref bychan ar hyd y ffordd rhwng Tregarth a Mynydd Llandygai.

Brodor o Sling yw'r actor John Ogwen.

Sling: mae'r hen gapel yn dŷ preifat erbyn hyn.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato