Mae Dyffryn Nantlle yn ardal yng Ngwynedd sy'n ymestyn o Ryd-Ddu wrth droed Yr Wyddfa tua'r gogledd hyd y môr. Llifa Afon Drws-y-coed trwy ran uchaf y dyffryn ac i mewn i Lyn Nantlle Uchaf lle mae Afon Llyfni yn tarddu ac yn llifo ar hyd y dyffryn tua'r môr. A dilyn dalgylch yr afon, gellid ystyried bod Dyffryn Nantlle yn dechrau ychydig uwchben Drws-y-coed, ond mae pentref Rhyd-Ddu yn cael ei gynnwys yn Nyffryn Nantlle fel rheol, er ei fod ar Afon Gwyrfai. Ar ochr ddeheuol y dyffryn mae Crib Nantlle, cyfres o fynyddoedd o'r Garn ger Rhyd-Ddu hyd Mynydd Graig Goch uwchben Llyn Cwm Dulyn. Ar ochr ogleddol y dyffryn mae Mynydd Mawr a Moel Tryfan. Mae Dyffryn Nantlle yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.
Cyfeirir at nifer o leoedd yn Nyffryn Nantlle ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Dywedir fod y gair "Nantlle" ei hun yn dod o "Nant Lleu".
Bu chwareli llechi yn yr ardal yn gynnar, ac yn y 18gChwarel y Cilgwyn oedd y fwyaf yng Nghymru. Tyfodd y boblogaeth yn gyflym gyda datblygiad y diwydiant llechi yn y 19g, ac yr oedd cryn nifer o chwareli yn y dyffryn. Chwarel Dorothea a Chwarel Penyrorsedd oedd y ddwy fwyaf. Erbyn diwedd y 1860au yr oedd Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu 40,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Roedd Rheilffordd Nantlle, oedd â'r wagenni yn cael eu tynnu gan geffylau, yn cario llechi o'r chwareli o 1865 hyd 1963.
Yn dilyn machlud y diwydiant llechi, daeth diweithdra yn broblem ddifrifol yn y dyffryn. Gwnaed ymdrech i ddenu diwydiannau ysgafn i'r ardal, er enghraifft i Stad Ddiwydiannol Penygroes. Yn 1991 sefydlwyd "Antur Nantlle Cyf" fel prosiect cymunedol i wella bywyd yn y dyffryn.
Trefi a phentrefi
Prif ganolfan y dyffryn yw Pen-y-groes. Ystyrir fod y pentrefi canlynol yn rhan o Ddyffryn Nantlle: