Eirug Wyn |
---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1950 Llanbryn-mair |
---|
Bu farw | 25 Ebrill 2004 Bangor |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | nofelydd |
---|
- Am y gwleidydd Plaid Cymru gweler Eurig Wyn.
Llenor Cymraeg oedd Eirug Wyn (11 Rhagfyr 1950 – 25 Ebrill 2004).[1]
Bywgraffiad
Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair Sir Drefaldwyn (Powys) yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Yn 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen Arfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail. Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.
Yn 1969 astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd.. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon yn 1977 ac wedyn ym Mangor [2].
Gwaith llenyddol
Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.
Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derec Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derec (hunangofiant).
Llyfryddiaeth
- Y Drych Tywyll a Storïau Eraill (Y Lolfa, 1992)
- Smôc Gron Bach (Y Lolfa, 1994) – Gwobr Goffa Daniel Owen 1996
- Lara (Y Lolfa, 1995)
- United!, Cyfres y Dolffin (Cwmni Iaith, 1996)
- Elvis: Diwrnod i'r Brenin (Y Lolfa, 1996)
- I Ble'r Aeth Haul y Bore? (Y Lolfa, 1997)
- Blodyn Tatws (Y Lolfa, 1998) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 1998
- Hogia'r Milgi (Y Lolfa, 1999)
- Tri Mochyn Bach (Y Lolfa, 2000) – Cyfrol y Fedal Ryddiaith 2000
- I Dir Neb (Y Lolfa, 2001)
- Bitsh! (Y Lolfa, 2002) – Gwobr Goffa Daniel Owen 2002
- Powdwr Rhech! (Y Lolfa, 2002)
- Y Dyn yn y Cefn heb Fwstásh (Y Lolfa, 2004)
Ffynonellau
- ↑ D Ben Rees (11 Mehefin 2004). "Eirug Wyn". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Ionawr 2024.
- ↑ Cofio Eirug Gol: Emyr Llewelyn Gruffudd Cyh:Y Lolfa 2004