Mae'r cofnod cyntaf o'r enw'n ymddangos rhwng 1126 a 1153 fel "Chaermerthin", yna yn 1158 fel "Cairmerdin".
Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Moridunum, (a sillafwyd yng ngwaith Ptolemi, ac ers hynny, yn 'Maridunum'); Moridūnon oedd yr hen air Brythoneg, fodd bynnag sy'n gyfuniad o "môr" a "din" neu ddinas. Mae'r môr heddiw tua 20 km i gyfeiriad y de; mae'n bosibl mai o'r gair Brythoneg hwn 'môr-ddin' y daw'r gair 'Myrddin'; ni sonir am 'Myrddin' tan i Sieffre o Fynwy (1090-1155) bersonoli'r enw.[5]
Hanes
Hanes Cynnar
Credir bod y gaer Rufeinig yn dyddio o tua 75-77 O.C. Darganfuwyd swp o arian Rhufeinig yn ymyl safle'r gaer yn 2006.[6] Ger y gaer hefyd mae un o'r unig saith amffitheatr sydd wedi goroesi
yng ngwledydd Prydain. Bu cloddio archaeolegol yno yn 1968 ac mae'r gaer yn 46 wrth 27 medr o faint gyda'r eisteddle yn 92m wrth 67m.[7] Credir bod patrwm strydoedd y dref wedi'i seilio ar yr hen gaer Rufeinig hon.
Adeiladodd y NormanWilliam Fitz Baldwin gastell yma rywbryd o gwmpas 1094. Dinistrwyd y castell gan Lywelyn Fawr yn 1215 ond ail-adeiladwyd y castell yn 1223, a chodwyd mur o gwmpas y dref. Yn 1405 cipiwyd y dref a'r castell gan Owain Glyn Dŵr. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Erbyn y 12g roedd yn gyfuniad o'r hen a'r newydd: yr hen dref Gymreig ei natur o amgylch y priordy Awgwstinaidd ac Eglwys Sant Pedr, a'r dref Seisnig newydd o amgylch y castell. Cyfunwyd y ddwy ran yn 1546, pan grewyd un fwrdeistref, a ddaeth yn sir ymhen blynyddoedd - yn 1604. Cynhaliwyd eisteddfod yn y castell yn 1451. Dim ond y porthdy deudwr a godwyd ar ddechrau'r 14g sydd ar ôl bellach gan fod y rhan fwyaf o'r castell y tu ôl i swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin.
Yn ystod cyfnod y Pla Du diwedd y 1340au, daeth y pla i Gaerfyrddin o ganlyniad i'r holl fasnachu llewyrchus oedd ar yr afon.[8] Mae haneswyr lleol yn lleoli safle claddu'r meirw adeg y pla yn y fynwent sydd ger Maes-yr-Ysgol a Llys Model tu ôl i Stryd Catherine.
Chwedl Arthur
Cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yng nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili. Ceir cyfeiriadau at Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cynnwys Ymddiddan Myrddin a Thaliesin, ac o bosibl at Arthur ei hun (Pa ŵr yw'r Porthor).
Ar 30 Mawrth, 1555, yn nheyrnasiad Mari Tudur, cafodd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ei losgi wrth y stanc yn sgwâr y farchnad (Sgwar Nott erbyn hyn) ar ôl cael ei gyhuddo o heresi a dangos gormod o gariad tuag at y Cymry.
Pan agorwyd Ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1576 roedd dwy fil o drigolion yn byw yn y dref. Argraffwyd yr ail bapur newydd wythnosol Cymru yng Nghaerfyrddin, The Carmarthen Journal a daeth y dref yn ganolfan bwysig i argraffu, gydag argraffwyr fel John Ross a theulu'r Spurrells yn cartrefu yno.
Heddiw
Adlewyrchir pwysigrwydd Caerfyrddin ym myd amaeth Cymru gan y ffaith y cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei sefydlu yn y dref yn 1955.
Bu yma weithfeydd tunplat a haearn ar ddechrau'r 19eg ganrif yn ogystal â ffatri gwneud rhaffau. Bu Helyntion Beca yn yr ardal, a rhoed nifer o'i 'merched' o flaen eu gwell yn llys y dref. Yn 1843 ymosododd nifer o wrthdystwyr ar y tlodty lleol. Yn y 19eg ganrif roedd yn y dref dros gant a hanner o dafarnau.[10] Caniatawyd agor y tafarnau hyn ar bob diwrnod marchnad ac roedd yr oriau agor, o'r herwydd, yn gyfandirol iawn!
Yn 1999 gosodwyd ffordd osgoi ddwyreiniol gan leihau'r tagfeydd.
Agorwyd Canolfan S4C Yr Egin, pencadlys newydd S4C yno ym mis Hydref 2018. Mae gyferbyn â phrif gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar Ffordd y Coleg.
↑Gwyddoniadur Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008, tud. 122.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.