Tref farchnad hanesyddol a chymuned ar ochr Sir Gaerfyrddin o lannau Afon Teifi, 9 km (5.5 milltir) o Lanbedr Pont Steffan yw Llanybydder. Saif ar y briffordd A485 rhwng Llanbedr a Chaerfyrddin.
Mae Cymuned Llanybydder yn cynnwys pentref gwledig Rhydcymerau a leolir 8.5 cilometr (5 milltir) i'r de-ddwyrain, dros Fynydd Llanybydder.
Cynrychiolir cymuned Llanybydder yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ann Davies (Plaid Cymru).[1][2]
Economi a chymdeithas
Mae'r dref yn enwog am ei ffeiriau ceffylau a gynhelir ar Ddydd Iau olaf pob mis. Mae'r Ffair wedi lleihau cryn dipyn ers yr Ail Ryfel Byd, ond mae'n dal i ddenu gwerthwyr a phrynwyr o bob cwr o Brydain ac Iwerddon.
Prif gyflogwr y cylch yw Dunbia (Dungannon Meats), sef lladd-dy a phrosesfa gig, ac mae'n cyflogi hyd at 400 o bobl - y mwyafrif mawr ohonynt yn weithwyr o Wlad Pwyl a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Mae hyn wedi cael cryn ddylanwad ar natur y gymuned leol. Cyn y mewnlifiad hyn, roedd tua 70% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.
Pobl o Lanybydder
Brodor o'r dref oedd y baledwr dall Dafydd Jones (Dewi Dywyll) (Deio'r Cantwr neu Dewi Medi) (1803-1868).
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanybydder (pob oed) (1,638) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanybydder) (897) |
|
57.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanybydder) (1040) |
|
63.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanybydder) (263) |
|
38.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau