Erthygl am le yn Sir Gaerfyrddin yw hon. Gweler hefyd Capel Dewi (gwahaniaethu).
Pentref yn Sir Gaerfyrddin yw Capel Dewi (Cyfeirnod OS: SN4720). Saif ar y ffordd B4300 rhyw bedair milltir i'r dwyrain o dref Caerfyrddin ger glan ddeheuol Afon Tywi. Ceir bragdy bychan Ffos y Ffin yma.