Pentref yng nghymuned Cydweli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Mynydd-y-garreg (hefyd Mynydd-y-Garreg; weithiau Mynyddygarreg). Fe'i lleolir 2 filltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Cydweli ger bryn isel Mynydd-y-Garreg, yn rhan isaf Cwm Gwendraeth. Rhed Afon Gwendraeth Fach heibio i'r pentref.
Ganwyd y cyn-chwaraewr rygbi enwog a sylwebydd chwaraeon Ray Gravell yn y pentref ar 3 Medi, 1951.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]
Cyfeiriadau