Cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanfair-ar-y-bryn. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd i'r emynydd William Williams, Pantycelyn gael ei eni yn y plwyf yn ffermdy Pantycelyn ger Pentre Tŷ-gwyn a'i gladdu ym mynwent eglwys Llanfair-ar-y-bryn, ar fryn ychydig i'r gogledd o dref Llanymddyfri.
Yn y cyfnod Rhufeinig roedd caer yma, a chredir mai hon oedd y gaer oedd yn dwyn yr enw Alabum.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanfair-ar-y-bryn (pob oed) (624) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair-ar-y-bryn) (200) |
|
32.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair-ar-y-bryn) (306) |
|
49% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanfair-ar-y-bryn) (96) |
|
37.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau