Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Pont Aber. Fe'i lleolir yn nwyrain y sir tua 6 milltir i'r de o dref Llangadog, ar ffordd yr A4069. Y pentrefi agosaf yw Capel Gwynfe i'r gorlelwin, Pont-ar-llechau i'r gogledd a Thwynllannan i'r dwyrain.
Gorwedd y pentref wrth odrau gorllewinol y Mynydd Du ac mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Llifa afon Sawddle, un o ledneintiau Afon Tywi, heibio i'r pentref.