Pentref bychan yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Pentre Tŷ-gwyn (ceir sawl ffurf arall ar yr enw, yn cynnwys Pentre-tŷ-gwyn). Fe'i lleolir yng nghymuned Llanfair-ar-y-bryn tua 4 milltir i'r dwyrain o dref Llanymddyfri ar lôn fynydd sy'n dringo o'r A40 i gyfeiriad Babel.
Mae'r pentref yn adnabyddus yn bennaf fel lleoliad ffermdy Pantycelyn, cartref yr emynydd William Williams (Pantycelyn) (1717-1791). Mae'r ffermdy i'w cael yn y bryniau ger y pentref.
Ceir capel yr Annibynwyr yn y pentref ei hun.[1]
Cyfeiriadau