- Am y pentrefan o'r un enw yng Ngheredigion, gweler Bronwydd, Ceredigion.
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Bronwydd[1][2] neu Bronwydd Arms. Saif tua thair milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin, ar y briffordd A484 rhwng Caerfyrddin a Chynwyl Elfed, yn nyffryn Afon Gwili. Mae Cymuned Bronwydd yn cynnwys y pentref ei hyn a phentrefi bychain Cwmdwyfran a Pentre Morgan. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Celynin.
Daw'r enw yn wreiddiol o enw Ystad y Bronwydd ger Castell Newydd Emlyn, oedd yn berchen llawer o dir yn yr ardal yma rai canrifoedd yn ôl. Adeiladwyd tafarn y Bronwydd Arms, a rhoddodd honno ei henw i'r pentref a'r ardal. Nid yw'r hen dafarn yn bod bellach, ond mae plac yn nodi ei safle.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[4]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Bronwydd, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (564) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (309) |
|
55.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (403) |
|
71.5% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Bronwydd, Sir Gaerfyrddin) (99) |
|
40.7% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau
Dolen allanol