Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Pentywyn[1] (Saesneg: Pendine).[2] Saif ger y môr i'r de-orllewin o Sanclêr, a heb fod ymhell o'r ffin a Sir Benfro.
Mae dwy ran i'r pentref; yr hen bentref ar fryn o gwmpas yr eglwys a'r tai o gwmpas yr harbwr, sydd wedi tyfu'n ganolfan ymwelwyr ar raddfa fechan. Ar un adeg roedd Traeth Pentywyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymgeisiau i dorri record cyflymdra ar dir y byd. Rhwng 1924 a 1927 torrwyd y record bum gwaith yma gan Malcolm Campbell a'r Cymro J. G. Parry-Thomas. Lladdwyd Parry-Thomas yma yn 1927 wrth geisio torri'r record eto yn ei gar Babs. Claddwyd Babs yn y tywod ar ôl y ddamwain, ac wedi iddo gael ei adfer mae yn awr i'w weld yn yr amgueddfa yn y pentref.
Ers 2004, ni chaniateir ceir ar y traeth. Ond yn 2010 caniateir ceir i barcio ar y traeth yn ystod gwyliau ysgol ac ar benwythnosau. Mae nawr yn costio £3 i barcio car ar y traeth.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[5]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Pentywyn (pob oed) (346) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentywyn) (61) |
|
18.2% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentywyn) (208) |
|
60.1% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pentywyn) (58) |
|
38.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau
Dolen allanol