Pentref bychan yng nghymuned Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanmilo (Saesneg: Llanmiloe). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y sir tua 4 milltir i'r gorllewin o Dalacharn ar y ffordd A4066 tua milltir a hanner cyn Pentywyn. Saif ar lan Bae Caerfyrddin.
Enwir y plwyf naill ai ar ôl sant o'r enw Milo (neu Meilw efallai): ni wyddys dim o gwbl amdano.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[2]
Cyfeiriadau