Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw Pont-iets (hefyd Pont Iets weithiau; Saesneg: Pontyates).[1] Fe'i lleolir yn ne'r sir tua 6 milltir i'r dwyrain o dref Cydweli ar y ffordd B4309. Mae'n rhan o ardal Cwm Gwendraeth ac yng nghymuned Llangyndeyrn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[3]
Cyfeiriadau