Pentref yng nghymuned Dyffryn Cennen, Sir Gaerfyrddin, Cymru, ydy Ffair-fach[1] (hefyd: Ffairfach, weithiau hefyd Ffair Fach). Lleolir tua cilomedr i'r de o Llandeilo, ac 8 cilomedr i'r gogledd o Rydaman ar ffordd yr A483. Caiff y pentref ei chwmpasu gan afonydd bron, gydag Afon Cennen yn ar ei hochr dwyreiniol, sy'n ymuno ag Afon Tywi i'r gogledd cyn i'r afon lifo tuag at Gaerfyrddin i'r gorllewin.
Addyag a diwylliant
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y pentref ym 1996.
Lleolir Ysgol Gyfun Tre-Gib yn y pentref, yn ogystal â gorsaf trên ar Reilffordd Calon Cymru.
Pobl o Ffair-fach
- Melville Richards (1910-1975). Arbenigwr ar yr ieithoedd Celtaidd, rhyddiaith Cymraeg Canol, Cymru'r Oesoedd Canol ac enwau lleoedd Cymraeg.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau