Pentref yng nghymuned Llanedi, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Yr Hendy.[1][2] Fe'i lleolir yn agos i'r ffin â Dinas a Sir Abertawe, ger Afon Llwchwr. Gyferbyn a'r Hendy, ar lan arall afon Llwchwr, mae tref Pontarddulais. Saif lle mae'r briffordd A4138 yn croesi'r draffordd M4.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[4]
Cyfeiriadau