Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn undeb yn cynrychioli buddianau ffermwyr ac yn ddiogelu a hyrwyddo buddiannau’r rheiny sy’n ennill incwm o amaethyddiaeth yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yng Nghaerfyrddin yn 1955.
Hanes
Sefydlwyd UAC ym 1955 oherwydd pryderon y byddai buddiannau ffermwyr Cymru bob amser yn dod yn ail i'r rhai oedd yn ffermio mewn ardaloedd âr mwy ffrwythlon yn Lloegr.
Roedd nifer o ddigwyddiadau wedi cyfrannau at y teimlad hwn, gan gynnwys cost pencadlys newydd yr NFU yn Knightsbridge[1] ond roedd cynllun i goedwigo ardal mawr yn Sir Gaerfyrddin, gan Lywodraeth y DU oedd wedi achosi i gadeirydd yr NFU yn Sir Gaerfyrddin gyhoeddi i aelodau mewn cyfarfod ar 8 Rhagfyr 1955 ei fod yn ymddiswyddo. Dywedodd Ivor T Davies ei fod yn teimlo bod polisiau’r NFU yn groes i fuddiannau ffermwyr Cymru. Siaradodd Mr Davies am sefydlu undeb amaethwyr newydd i Gymru a cherddodd llawer o’r aelodau allan, ond arhosodd 12 ar ôl. Penderfynnwyd y 12 i ffurfio Undeb Amaethwyr Cymru ac i ethol Ivor T Davies yn gadeirydd a D. T Davies yn is-gadeirydd[2].
Daeth J. B. Evans yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb[2], ac yn dilyn cyfarfod yn Aberystwyth, daeth John Morris yn Ddirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a swyddog cyfreithiol yr undeb. Agorodd Morris swyddfa yng Nghaernarfon er mwyn recriwtio aelodau yn Sir Gaernarfon a Sir Fon ac erbyn iddo adael yr undeb yn 1957, roedd swyddfeydd hefyd yn Nolgellau, Llangefni ac Aberystwyth[1]. Roedd yr undeb yn weithgar yn yr ymdrech i atal y cynllun i foddi Capel Celyn[1].
Erbyn 1959 roedd yr Undeb yn fudiad sylweddol “The FUW is a force to be reckoned with... Its roots go down into deep soil, invigorated as it may be by past frustrations and controversies , but fed principally from the conviction that the Welsh voice can do more for Welsh agriculture solo than in chorus” (Financial Times)[2]
Deg diwrnod cyn trosglwyddo cyfrifoldeb am amaeth yn llawn i’r Swyddfa Gymreig yn 1978, cyhoeddodd Fred Peart, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd bod Llywodraeth y DU yn cydnabod Undeb Amaethwyr Cymru i siarad ar ran ffermwyr Cymru. Roedd hyn yn foment tyngedfennol i’r Undeb[2]. Ysgrifennodd Gwladol Cymru ar y pryd oedd John Morris, oedd wedi gweithio i’r Undeb yn ei
Gwasanaethau
Mae UAC yn cynnig cyngor arbenigol, gostyngiadau a chynigion i aelodau, cyngor ar y datblygiadau polisi diweddaraf, rhwydwaith o swyddfeydd lleol, lobïo llywodraeth a’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau, a rhoi llais i ffermwyr Cymru[3].
Strwythur
Tim Llywyddol
Mae aelodau UAC yn ethol Tîm Polisi Llywyddol ar lefel gendlaethol sy’n siarad ar ran ffermwyr Cymru ar lefel lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac yn cynrychioli’r Undeb mewn cyfarfodydd gweinidogol, gweithdai rhanddeiliad a chyfarfodydd canghennau leol.
Canghennau
Mae 12 cangen sirol sy’n ethol pwyllgor y sir gan gynnwys Llywydd a Chadeirydd ac mae swyddfa ar gyfer pob cangen sir. Lleolir y swyddfeydd lleol yn:
Mae 11 pwyllgor sector, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o ffermwyr a etholwyd yn ddemocrataidd o 12 cangen sir yr Undeb ar gyfer:
Iechyd a lles anifeiliad
Tir Comin
Addysg a hyfforddiant
Arallgyfeirio
Ffermio tir uchel a thir dan anfantais
Defnydd tir a chysylltiadau seneddol
Marchnadoedd, gwlan a da byw
Llaeth a chynnyrch llaeth
Tenantiaid
Llais ifanc
Mae aelodau pwyllgorau sector, swyddogion y siroedd, swyddogion a staff yr undeb yn cwrdd yn y Brif Gyngor pob dwy fis, sef prif corf etholedig yr Undeb.