Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd1982. SuperTed oedd y rhaglen gyntaf i'w ddarlledu ar S4C.[1]
Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981. Cychwynodd y sianel wreiddiol ar deledu analog yn 1982, lle roedd yn gyfrifol am ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn ystod oriau brig a rhaglenni Channel 4 am weddill yr amser. Yn dilyn y newid i deledu digidol, daeth yn sianel uniaith Gymraeg. Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisiynu oddi wrth gwmnïau annibynnol. Yn yr 1980au cafodd y sianel enw da am gomisiynu cartwnau a ddaeth yn llwyddiannau byd-eang megis SuperTed, Sam Tân, Shakespeare - The Animated Tales. Mae'r sianel hefyd yn nodedig am ddramau o safon uchel sydd wedi llwyddo yn rhyngwladol, yn cynnwys Y Gwyll, 35 Diwrnod ac Un Bore Mercher. Mae rhaglenni chwaraeon yn denu nifer fawr o wylwyr i'r sianel ac er y gystadleuaeth frwd am hawliau chwaraeon gan sianel masnachol, mae S4C yn ceisio darparu amrywiaeth o chwaraeon yn cynnwys pêl-droed a rygbi.
Goruwchwylir y gwasanaeth gan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan. Roedd yr adran yn arfer ariannu'r sianel yn llawn ond ers 2010 torrwyd y grant i tua £6.8m y flwyddyn a daw gweddill cyllid S4C drwy'r BBC a'r drwydded deledu. Mae S4C hefyd yn derbyn arian am werthu hysbysebion ond bu gostyngiad yn lefel yr incwm o hysbysebu wrth i wylwyr droi at ddulliau digidol o dderbyn eu gwasanaethau teledu, gan mai dim ond ar analog yr oedd S4C yn gallu gwerthu hysbysebion o gwmpas rhaglenni Saesneg Channel 4. Ar ôl diffodd analog mae'r Sianel yn ceisio incwm masnachol o sawl ffynhonnell yn cynnwys hysbysebion ar y teledu ac ar wasanaethau arlein; drwy bartneriaethau masnachol; gwerthiant rhaglenni a chyd-gynhyrchu ac ecwiti mewn prosiectau a chwmniau digidol.[2]
Mae'r BBC yn cyflawni ei ddyletswydd gyhoeddus trwy gynhyrchu deg awr o raglenni bob wythnos, gan gynnwys rhaglenni poblogaidd megis Pobol y Cwm a Newyddion. Fel gweddill gwasanaethau cyhoeddus y BBC, mae'r rhain yn cael eu hariannu drwy'r drwydded deledu.
Lledaenu llwyfannau
Yn 2008 lansiwyd gwasanaeth i blant ar y sianel o'r enw Cyw, gyda chwech awr a hanner o raglenni bob dydd o ddydd Llun i Ddydd Gwener.[3]
Yn 2016 lansiwyd cyfres i bobl ifanc rhwng 16-35 oed. Roedd y cynnwys ar gael ar YouTube gyda pob rhaglen yn bum munud o hyd.[4] Yn dilyn y cynllun peilot, lansiwyd gwasanaeth Hansh yn Mehefin 2017, gyda cynnwys digidol ar sawl cyfrwng cymdeithasol yn cynnwys YouTube, Facebook, Twitter ac Instagram.[5]
Yn 2019 lansiwyd Lŵp sy'n Sianel ar-lein traws blatfform ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg gan S4C. Fe'i lansiwyd ym mis Awst 2019. Mae'r gwasanaeth i'w weld ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau rhyngrwyd eraill sy'n annibynnol o'r Sianel, fel Youtube, a chyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, TikTok ac ati.[6]
Yn 2021 lansiwyd gwasanaeth Newyddion S4C sy'n wasanaeth ar-lein yn annibynnol ar ddarpariaeth rhaglen deledu Newyddion. Mae'r gwasanaeth newydd yno i lenwi bwlch wrth i arferion gwylio newyddion ar y teledu yn ôl ymchwil S4C fod yn parth i bobl dros 65 oed, tra bod pobl iau yn derbyn ei newyddion drwy'r cyfryngau cymdeithasol (megis Facebook, Twitter ayyb). Mae gwasanaeth Newyddion S4C yn derbyn newyddion gan y BBC, Golwg360, ITV Cymru Wales a ffrydiau annibynnol eraill.[7]
Hanes
Ymgyrch y sianel
Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu darlledu ar amseroedd gwahanol neu ddim o gwbl.
Dros y 1970au bu ymgyrchwyr iaith yn brwydro dros gael gwasanaeth teledu Cymraeg. Gwrthodwyd talu'r drwydded deledu gan Gymry amlwg, torrwyd i mewn i stiwdios teledu a bu protestwyr hyd yn oed yn dringo mastiau a distrywio cyfarpar darlledu. Yn 1980 gwnaeth Gwynfor Evans fygwth ymprydio hyd at farwolaeth ar ôl i Lywodraeth Margaret Thatcher fynd yn ôl ar addewid a wnaethant i roi sianel Gymraeg i Gymru. Ar ôl i Gymry amlwg megis Archesgob Cymru ar y pryd, Cledwyn Hughes a Goronwy Daniel fynd i gyfarfod ag aelod o'r cabinet fe newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl ac fe gytunwyd i sefydlu'r sianel.
Newid i ddigidol
Yn 1998 lansiwyd gwasanaeth teledu digidol daearol (a elwid yn Freeview yn ddiweddarach) a llwyfan lloeren Sky ar draws y DU. Ar y gwasanaeth daearol cafodd S4C ei wobrwyo gyda hanner Amlblecs A. Sefydlwyd cwmni S4C Digital Networks (SDN) i werthu'r gofod hwn ac y tu allan i Gymru llogwyd y gofod i sawl darlledwr yn cynnwys QVC. Cychwynwyd darlledu sianel uniaith Gymraeg S4C Digidol, ac S4C2, a oedd yn darlledu cyfarfodydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd S4C Digidol ac S4C2 ar gael drwy wledydd Prydain drwy loeren, yn ogystal â thrwy Gymru ar TDD ac ar wasanaeth cebl Virgin Media mewn rhannau o Dde Cymru. Wedi cwblhau y newid i ddigidol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2010, caewyd hen wasanaeth analog S4C gan adael y gwasanaeth S4C Digidol fel y brif sianel Gymraeg.
Ar yr adegau pan nad oedd sianel analog S4C yn darlledu yn Gymraeg dangoswyd rhaglenni Channel 4 a gynhyrchwyd i weddill y Deyrnas Unedig, ond daeth hyn i ben pan diffoddwyd teledu analog yng Nghymru yn 2009 a 2010 fel rhan o'r Newid i Ddigidol yng ngwledydd Prydain.
Argyfwng 2010
Ar 20 Hydref 2010 cyhoeddodd Canghellor y DU George Osborne AS y byddai'r cyfrifoldeb am ariannu S4C yn cael ei drosglwyddo i'r BBC. Roedd hyn yn dilyn cyfres o drafodaethau rhwng Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeonllywodraeth y DU a'r BBC. Doedd S4C na llywodraeth Cymru yn gwybod dim am y trafodaethau hyn ac roedd y cyhoeddiad yn gwbl annisgwyl iddynt. Clywodd John Walter Jones, Cadeirydd S4C, amdano am y tro cyntaf pan oedd yn gwrando ar Radio Cymru. Dywedodd "Rydw i'n rhyfeddu at yr agwedd sarhaus mae Llywodraeth Llundain wedi'i dangos, nid yn unig tuag at S4C, ond hefyd tuag at bobl Cymru ac i'r iaith." Disgrifiodd Cymdeithas yr Iaith y penderfyniad fel "anghredadwy" gan rybuddio fod hyn yn mynd â darlledu Cymraeg "yn ôl i'r 1970au pan nad oedd S4C yn bodoli. Y gwir yw, erbyn 2015, mae'n bosib fydd na ddim sianel ar ôl i'r BBC gymryd drosodd oherwydd toriadau Jeremy Hunt." Cyhoeddodd Awdurdod S4C eu bod am wneud cais am adolygiad barnwrol o'r modd y penderfynwyd ar y newidiadau hyn a'r sail cyfreithiol iddynt.[8] Ymateb Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones AC, oedd fod y penderfyniad i newid y drefn o ariannu S4C yn "gywilyddus". Ychwanegodd nad oedd unrhyw drafodaeth wedi bod, a'i fod (ar 20 Hydref 2010) yn dal heb gael gwybod yn swyddogol am y penderfyniad.[8] Dywedodd ei fod yn "ddiwrnod du" i Gymru.[9]
Ar 25 Hydref cafwyd ymateb swyddogol Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws, fod y penderfyniad yn un "cwbl sarhaus" ac y byddai'n cael "effaith andwyol" ar yr iaith Gymraeg.[10] Datganodd:
"Dros y degawdau diwethaf, fe ddaeth S4C â statws i'r iaith, a hynny drwy gyfoeth y rhaglenni a'r ffilmiau yr oedd yn ei darlledu. Lle'r oedd corff annibynnol yn gwneud penderfyniadau darlledu yn seiliedig ar arbenigedd mewn cynllunio ieithyddol, bellach mae dryswch llwyr. Trwy gynnal eu trafodaethau y tu ôl i ddrysau caeedig yn Llundain, mae'r Llywodraeth Brydeinig wedi tanseilio a sarhau holl ddarlledu yng Nghymru."[10]
Ychwanegodd:
"Maen nhw wedi ein hamddifadu o unrhyw gynllunio hirdymor ar gyfer darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg, a'n cyfyngu i ryw dair neu bedair blynedd yn unig. Fe gymerodd hi flynyddoedd o ymgyrchu i sefydlu'r Sianel, a bu hi'n gwasanaethu pobl Cymru i safon uchel am 28 oed. Cwta wythnos a gymerodd hi i'r Llywodraeth Brydeinig dynnu'r plwg. Mae'n anghredadwy."[10]
Ar y rhaglen ddogfen Week In Week Out a ddarlledwyd ar y 25 Hydref, 2010 dywedodd cyn-Uwch Gyfarwyddwr S4C, Geraint Stanley Jones (a fu yn y swydd o 1989 tan 1994) na fyddai'n ddoeth petai'r sianel yn dechrau brwydro yn erbyn y llywodraeth.[11] Dywedodd hefyd fod S4C wedi colli "hygrededd ac awdurdod" yn ystod y misoedd diwethaf.[11] Beirniadwyd Awdurdod S4C hefyd gan yr aelod seneddol CeidwadolAlun Cairns a ddywedodd fod yr awdurdod wedi tanseilio'i hun.[11] Yn ogystal â hyn, croeswyd y penderfyniad y byddai'r BBC yn cymryd rheolaeth o beth o gyllid S4C gan gyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards. Dywedodd Ms Richards ei bod yn falch fod y BBC wedi gwneud y penderfyniad i gefnogi teledu cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol ac y byddai cwmnïau annibynnol sy'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C yn elwa yn y dyfodol.[12] Cyn yr argyfwng cyllidol, roedd cyn-weinidog y Swyddfa Gymreig, Rod Richards AS, wedi galw am i'r BBC gymryd rheolaeth o S4C o achos "eu hystadegau gwylwyr siomedig".[13]
Ym mis Medi 2013 cychwynodd S4C astudiaeth i'r posibilrwydd o symud eu pencadlys. Ym mis Mawrth 2014 cyhoeddwyd mai Caerfyrddin oedd yn fuddugol gyda chais a arweiniwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Y Brifysgol sydd berchen y tir lle adeiladwyd Canolfan S4C Yr Egin a mae'r adeilad hefyd yn gartref i gwmniau eraill yn y diwydiannau creadigol.[16] Cafwyd cais cryf ar gyfer adleoli i Gaernarfon ond roedd siom nad oedd y cais yn llwyddiannus.[17]
Yn 2016 datgelwyd fod S4C yn talu £3 miliwn o rent rhag-blaen i Brifysgol Y Drindod Dewi Sant[18], bydd yn talu am rhent dros yr 20 mlynedd dilynol. Mynegwyd pryder am y trefniant a'r diffyg tryloywder ynghylch taliadau masnachol rhwng dau gorff sy'n derbyn arian cyhoeddus.[19] Gwnaed cais gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant am arian at y gwaith adeiladu a cafwyd £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £3m arall o fargen ddinesig Bae Abertawe.[20]
Ym Mehefin 2018 datgelwyd y bydd mwy o staff yn gadael y sianel na'r rhai fyddai'n symud i weithio yng Nghaerfyrddin. Cychwynnodd S4C adleoli i'r adeilad newydd o fis Medi 2018 a byddai 54 o swyddi yn symud i'r ganolfan. Cadwyd swyddfa yng Nghaerdydd ar gyfer dibenion technegol, wedi ei gyd-leoli ym Pencadlys newydd BBC Cymru gyda 70 o staff yno, ond bydd canran sylweddol o'r swyddi technegol yn trosglwyddo i'r BBC.[21] Er hyn, ni fyddai BBC Cymru yn symud ei stiwdio yng Nghaerfyrddin i'r Egin.[22] Yn Medi 2018, ymrwymodd S4C i ddeg mlynedd o les ar ei swyddfa yng Nghaernarfon, sydd a 12 o staff llawn amser.[23]
Yn 2021 symudodd adrannau Cyflwyno, Llyfrgell, Hyrwyddo a Masnachol S4C i bencadlys BBC Cymru yn Sgwâr Canolog, Caerdydd. Y rhaglenni cyntaf a ddarlledwyd oddi yno oedd gwasanaeth plant y sianel, Cyw am 6:00. Daeth y cyflwyniad byw cyntaf gan Liz Scourfield ar 27 Ionawr 2021 cyn y bwletin newyddion am 12:00.[24][25]
Honiadau am fwlio a diwylliant o ofn
Yn Mai 2023, cyhoeddwyd fod y sianel wedi gofyn i cwmni cyfreithiol ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn". Roedd hyn dilyn e-bost anhysbys yn honni bod staff sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli ac "yn aml yn eu dagrau".[26]
Ym mis Hydref 2023, diswyddwyd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol".[27] Gwadwyd y cyhuddiadau yma ganddi mewn cyfweliad yn Tachwedd 2023, gan ddweud ei bod hithau wedi cael ei bwlio ac wedi ei diswyddo'n annheg.[28] Ar yr un pryd, cyhoeddwyd fod y prif weithredwr am gymryd amser ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch. Ar 24 Tachwedd 2023 cyhoeddodd Awdurdod y sianel bod y prif weithredwr, Siân Doyle wedi ei diswyddo, yn sgîl ymchwiliad gan gwmni cyfreithiol Capital Law.[29] O fewn oriau cafwyd ymateb gan Siân Doyle yn beirniadu y penderfyniad i'w diswyddo – gan ddweud nad oedd wedi cael cyfle i ymateb a nid oedd "rheswm dilys y tu ôl i'r penderfyniad." [30]
Yr wythnos ganlynol dywedodd cyn-brif swyddog cyfathrebu y sianel, Gwyn Williams, ei fod wedi rhybuddio Awdurdod S4C am "ymddygiad amhriodol" o fewn y sefydliad ym mis Ebrill 2022.[31] Esboniodd bod staff wedi dioddef oherwydd y awyrgylch tocsig ac bod nifer fawr o staff wedi gadael. Datgelodd cais Rhyddid Gwybodaeth i 27 aelod o staff adael ym mlwyddyn ariannol 2022/23, allan o'r 118 oedd yn gweithio i S4C yn y cyfnod.[32]