Goronwy Daniel |
---|
Ganwyd | 21 Mawrth 1914 |
---|
Bu farw | 17 Ionawr 2003 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | ystadegydd |
---|
Priod | Valerie Davidia Lloyd George |
---|
Plant | Anne Margaret Daniel, Gwyneth Roberta Daniel, David Llewelyn Daniel |
---|
Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd |
---|
Gŵr dylanwadol iawn a phennaeth cyntaf gwasanaeth sifil y Swyddfa Gymreig oedd Goronwy Hopkin Daniel (21 Mawrth 1914 - 17 Ionawr 2003), Prifathro Prifysgol Aberystwyth a sefydlydd Theatr y Werin, Aberystwyth.
Roedd Goronwy'n un o'r tri aeth i Lundain i siarad â Willie Whitelaw, un o Weinidogion Margaret Thatcher, am yr angen i sefydlu sianel Gymraeg. Gwilym Williams, Archesgob Bangor a Chledwyn Hughes oedd y ddau arall.
Bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Priododd Valerie, wyres David Lloyd George. Sefydlwyd Cymdeithas Syr Goronwy Daniel, cymdeithas ar gyfer gweision sifil Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2009.
Bu farw'n 88 oed.