Corff statudol oedd 'Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod i'w ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd o'r iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau.
Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlu'r Bwrdd. Wedi hynny, sefydlwyd corff ymgynghorol anstadudol ym 1988 o dan gadeiryddiaeth John Walter Jones.[2] Gwnaeth y bwrdd argymhellion i’r llywodraeth yn 1991 bod angen Deddf Iaith newydd, gan arwain at Deddf Iaith 1993 a sefydlodd y bwrdd statudol.[3]
Ar ddiwedd 2004 cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhodri Morgan "goelcerth y cwangos" a fyddai yn diddymu sawl corff yn cynnwys Bwrdd yr Iaith.[4] Croesawyd hyn gan Gymdeithas yr Iaith[5] ond nid oedd pawb yn cytuno.[6] Yn 2006 cafwyd pleidlais yn y Cynulliad yn gorchymyn i Llywodraeth y Cynulliad ohirio'r cynllun.[7][8] Yn dilyn Etholiad y Cynulliad 2007 cafwyd cytundeb Cymru'n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Dair mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd y Llywodraeth y Mesur Iaith hir-ddisgwyliedig ac fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 7 Rhagfyr 2010. Byddai'r Ddeddf yn sefydlu swydd newydd Comisiynydd Iaith gan ddod a Bwrdd yr Iaith i ben ar ôl bron i ugain mlynedd.[9] Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 a trosglwyddwyd staff, eiddo a dyletswyddau y bwrdd i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg.[10][11]
Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddo'r iaith o fewn y sector preifat.
Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ei feirniadu'n llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.