Cwmni cynhyrchu rhaglenni teledu ydy Cwmni Da, sy'n creu rhaglenni teledu ar gyfer S4C, yn bennaf. Mae cynnyrch cenedlaethol a rhyngwladol y cwmni yn cynnwys rhaglenni ffeithiol, plant, comedi, adloniant, drama, digwyddiadau a chwaraeon. Mae Cwmni Da hefyd yn creu cynnwys ar gyfer y BBC, C4 ac yn cyd-gynhyrchu rhaglenni ar gyfer y farchnad ryngwladol.[1]
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gynyrchiadau'r cwmni wedi derbyn clod – yn genedlaethol yn ogystal ag ar y llwyfan rhyngwladol. Ymysg y gwobrau mae 9 Gwobr Bafta Cymru, Prif Wobr yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, Gwobr One World Media a’r wobr ryngwladol glodwiw: The Jules Verne Adventure Film Award. Cyrhaeddodd cynyrchiadau diweddar y cwmni restr fer gwobrau Bafta UK yn ogystal â rhestr fer y Grierson Documentary Awards.[2]
Sefydlwyd y cwmni yn 1997 gan Dylan Huws, Ifor ap Glyn a Neville Hughes. Yn 2007 gwerthwyd cyfranddaliadau y ddau gyfarwyddwr arall i Dylan Huws.[3]
Yn 2008 penderfynodd Huws drosglwyddo ei gyfranddaliadau i 'Ymddiriedolaeth ym Mherchnogaeth y Gweithwyr' fel bod y staff yn berchen y busnes. Mae'r Ymddiriedolwyr – sy;n cynnwys aelod o staff Cwmni Da – yw cadw golwg ar waith y cwmni.[4]
Cyfeiriadau
Dolen allanol