Teyrnas Gwynedd

Mae'r erthygl hon am y deyrnas hanesyddol Gwynedd. Am y sir fodern gweler Gwynedd. Gweler hefyd Gwynedd (gwahaniaethu)
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion

Braslun o Gymru, 1063-1282

HWB
Oes y Tywysogion
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd Teyrnas Gwynedd yn un o brif deyrnasoedd Cymru yn yr Oesoedd Canol. Roedd ei ffiniau yn amrywio, yn dibynnu ar ba mor nerthol oedd y brenin neu'r tywysog, ond roedd wastad yn cynnwys Arfon, Eryri, ac Ynys Môn. Yn draddodiadol roedd Gwynedd yn cael ei rhannu'n ddau ranbarth: "Gwynedd Uwch Conwy" a "Gwynedd Is Conwy", gydag Afon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.

Yn ôl Historia Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roedd Cunedda Wledig[1] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'r Hen Ogledd, sef rhan ddeheuol yr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[2] Yr hen enw mewn Lladin oedd Venedotia.[3] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC. Yn ôl yr hanes enwyd rhai o’r teyrnasoedd yng Nghymru ar ôl y meibion a ddaeth gyda Cunedda - er enghraifft, enwyd ‘Ceredigion’ ar ôl Ceredig tra bod Edeirnion a Rhufoniog wedi eu henwi ar ôl Edern a Rhufawn.[2][4]

Mae carreg fedd o ddiwedd y 5g yn Eglwys Penmachno yn dystiolaeth a fedrai fod o gymorth gyda'u dyfodiad i Wynedd. Mae'n coffau gŵr o'r enw Cantiorix, a ddisgrifir yn yr arysgrif Lladin fel "Cantiorix hic iacit/Venedotis cives fuit/consobrinos Magli magistrati", neu mewn Cymraeg "Yma y gorwedd Cantiorix. Roedd yn ddinesydd o Wynedd ac yn gefnder i Maglos yr ynad". Mae'r cyfeiriadau at ‘ddinesydd’ a ‘magistratus’ yn awgrymu parhâd y drefn Rufeinig yng Ngwynedd am gyfnod ar ôl i'r llengoedd adael.[5]

Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yn oes Maelgwn Gwynedd, a oedd yn or-ŵyr i Gunedda Wledig, ac a fu’n teyrnasu yng Ngwynedd yn y 6g.[6][7] Yn nes ymlaen symudodd y prif lys i Aberffraw, a disgrifir rheolwr Gwynedd fel "Tywysog Aberffraw" neu "Arglwydd Aberffraw".

Datblygodd teyrnas Gwynedd yn y cyfnod pan ymadawodd y Rhufeiniaid â Phrydain, sef yn ystod y 5g, a phan oedd y wlad yn cael ei gwladychu gan yr Eingl-Sacsoniaid. Wedi eu sefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru, esgynnodd rheolwyr Gwynedd i bŵer a chael eu cydnabod fel ‘Brenhinoedd y Brythoniaid’ cyn iddynt golli pŵer oherwydd rhyfeloedd ymysg ei gilydd a goresgyniad. Erbyn tua 1039 roedd Gruffydd ap Llywelyn wedi sefydlu ei hun fel rheolwr Gwynedd a Phowys, ac erbyn 1055 roedd wedi ychwanegu'r Deheubarth. Aeth ymlaen i gipio Morgannwg, ac o ganlyniad medrai hawlio ei fod yn rheoli Cymru gyfan erbyn diwedd y 1050au. Cyfeirir ato fel Brenin Gwynedd a Chymru, ac ef yw’r unig reolwr yn hanes Cymru all hawlio rheolaeth dros Gymru fel teyrnas gyfan. Chwalwyd ei deyrnas yn 1063 oherwydd goresgyniad gan y Sacsoniaid o dan arweiniad Harold Godwinson, dair blynedd cyn y goresgynnwyd Cymru gan y Normaniaid.[8] Lladdwyd Harold Godwinson, Brenin Lloegr ac etifedd Edward y Cyffeswr, pan saethwyd ef yn ei lygad ym Mrwydr Hastings yn 1066 gan fyddin Normanaidd Wiliam y Concwerwr.[9]

Ailsefydlwyd Teyrnas Gwynedd a Llys Aberffraw fel rheolwyr pwysicaf Cymru gyda dyfodiad Gruffydd ap Cynan, a oedd yn Frenin Gwynedd rhwng 1081 a 1137. Adferwyd statws llinach frenhinol Aberffraw ganddo a bu hwn yn gyfnod pontio pwysig a alluogodd Llywelyn ap Iorwerth, neu Lywelyn Fawr, i alw ynghyd dywysogion Cymru yn Aberdyfi yn 1216 er mwyn cyhoeddi bodolaeth Tywysogaeth Cymru. Yn 1258 tyngodd y rhan fwyaf o dywysogion Cymru lw o ffyddlondeb i Lywelyn ap Gruffudd, ŵyr Llywelyn Fawr, fel Tywysog Cymru, ac roedd Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr, Harri III, o’i awdurdod fel Tywysog Cymru a’i hawl i gael gwrogaeth gan y tywysogion Cymreig. Ond daeth tro ar fyd i deyrnas Gwynedd gyda Chytundeb Aberconwy yn 1277. Er ei fod yn sefydlu cytundeb ar heddwch rhwng Cymru a Lloegr ar y pryd roedd hefyd yn dynodi camau cyntaf diwedd annibyniaeth i Gymru. Oherwydd gwrthdaro rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I, Brenin Lloegr, roedd telerau’r cytundeb yn cwtogi’n ddirfawr ar diroedd Llywelyn fel mai dim ond ei deyrnas yng Ngwynedd oedd yn ei feddiant o hyd. Yn 1282/3 daeth annibyniaeth Cymru i ben yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd yn Amwythig yn 1283. Anfonwyd Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort, i leiandy yn Sempringham, swydd Norfolk, lle treuliodd weddill ei hoes nes iddi farw yn 1137. Anfonwyd meibion Dafydd, sef Owain a Llywelyn, i garchardai yn Lloegr, ac anfonwyd ei ferched yntau i leiandy. Roedd Edward, Brenin Lloegr, yn sicrhau felly nad oedd disgynyddion i linach frenhinol Aberffraw a theyrnas Gwynedd, a chyda hynny cychwynnwyd ar bennod newydd yn hanes Cymru, sef y Goncwest Edwardaidd.[10]

Amrywiodd a newidiodd ffiniau Teyrnas Gwynedd dros wahanol gyfnodau, ond yn ei hanfod roedd y deyrnas yn cynnwys cantrefi Aberffraw, Cemais a Chantref Rhosyr ar Ynys Môn, ac Arllechwedd, Arfon, Dunoding, Dyffryn Clwyd, Llŷn, Rhos, Rhufoniog a Thegeingl a phrif dir mynyddig Eryri.[11]

Cunedda a’i feibion

Yr hen enw Lladin ar Wynedd oedd Venedotia. Cafodd yr enw hwn yn y lle cyntaf oherwydd bod trefedigaeth o Wyddelod wedi ymsefydlu ar Ynys Môn, ond ehangwyd hyn i gynnwys Gwyddelod a oedd wedi ymsefydlu ar draws gogledd Cymru erbyn y 5g.[12] Yn ôl Nennius, mynach a chroniclwr o’r 9g, roedd gogledd Cymru yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid yn agored i ymosodiadau cynyddol gan ysbeiliwyr o Ynys Manaw ac Iwerddon. Achosodd y sefyllfa hon i Cunedda, un o benaethiaid llwyth y Gododdin,[13] a’i feibion, ddod i lawr o Fanaw Gododdin ger Caeredin (sef Swydd Clackmannan yn neheudir yr Alban) i ymsefydlu ac amddiffyn gogledd Cymru yn erbyn yr ysbeilwyr hyn. Daethant i lawr felly o dan reolaeth Rhufeinig-Brydeinig.[14] Yn ôl Nennius, daeth Cunedda â threfn i ogledd Cymru, ac ar ôl ei farw rhannwyd Gwynedd rhwng ei feibion - er enghraifft, Dynod ei fab yn cael Dunoding a Ceredig yn cael Ceredigion. Er hynny, mai rhai haneswyr o’r farn bod yr hanes hwn am ei feibion yn rhoi eu henwau i diroedd y tu allan i Wynedd yn rhan o chwedloniaeth a phropaganda’r cyfnod.[14]

Roedd Cunedda yn ŵyr i Paternus Pesrut (Padarn Peisrudd) ac yn fab i Aeturnus sydd â’u henwau yn dangos dylanwad Rhufeinig. Roedd Paternus ac Aeturnus yn benaethiaid brodorol, Cristnogol a lywodraethent eu rhanbarthau fel cynrychiolwyr yr Ymerodraeth Rufeinig. Gadawodd Macsen Wledig, neu Magnus Maximus, llywodraethwr Rhufeinig Prydain a Chelt o Sbaen, Brydain yn 383, ac yn ôl polisi’r Ymerodraeth rhoddwyd penaethiaid brodorol lleol yng ngofal ardaloedd neu ranbarthau'r Ymerodraeth. Gan ddilyn y polisi hwn daeth Cunedda i lawr o’r Hen Ogledd i ogledd Cymru i roi trefn ar yr ardal. Cymraeg cynnar oedd iaith yr Hen Ogledd tan yr 8g a hon oedd iaith Cunedda a’r penaethiaid eraill.[15] Sonia Aneirin yn ei gerdd ‘Y Gododdin’ am y cysylltiad rhwng dynion yr Hen Ogledd a Chymru, gyda’r milwyr o Wynedd yn mynd i helpu eu cynghreiriaid ym Mrwydr Catraeth tua 600 O.C.[16][17]

Yn y cyfnod ôl-Rufeinig, byddai rheolwyr cynharaf Cymru a Gwynedd wedi rheoli eu tir drwy gyfrwng y ‘cantref’ a ddisgrifiwyd yng Nghyfraith Cymru ganrifoedd yn ddiweddarach. Roedd eu maint yn debyg i faint y tuath Gwyddelig, sef math o deyrnas gynnar yn Iwerddon. Defnyddiwyd yr enw ‘brenin’ yng Nghymru i ddisgrifio rheolwr y tiriogaethau cynnar hyn.[14]

Gor-ŵyr i Cunedda oedd Maelgwn Gwynedd (c.490-549) a oedd wedi sefydlu ei hun fel Brenin Gwynedd erbyn dechrau’r 6g. O dan ei arweiniad ef sefydlwyd Gwynedd fel y deyrnas gryfaf yng Nghymru. Roedd yn un o frenhinoedd amlycaf y Brythoniaid, er iddo gael ei ddisgrifio gan Gildas (c.495-c.570), mynach Brythonig, fel dyn didrugaredd a chreulon.[7] Roedd Cadwallon ap Cadfan (c.600-634), Brenin Gwynedd, yn perthyn i’r un llinach o benarglwyddi Brythonaidd Prydain. Lladdwyd ef mewn brwydr yn 634 yn erbyn Oswald, Brenin Brynaich, yn agos at Fur Hadrian, a chyda hynny bu farw'r olaf o’r uwch-frenhinoedd Cymreig.[18][19]

Rhodri Mawr ac arglwyddiaeth Aberffraw

Ar ddiwedd y 9fed ganrif a’r 10fed ganrif ymosodwyd ar ardaloedd arfordirol Gwynedd gan y Llychlynwyr. Daeth diwedd ar linell uniongyrchol Llinach Cunedda yn 825 gyda marwolaeth Hywel ap Rhodri Molwynog, y gwryw olaf yn y llinell deuluol.

Cunedda, Brenin cyntaf Gwynedd
Baner Gwynedd

Olynwyd ef gan Frenin nesaf Gwynedd, sef Merfyn Frych (c.790-844) a oedd, yn ôl rhai ffynonellau, yn fab i Erthil, tywysog o’r Hen Ogledd, tra bod eraill yn awgrymu mai ef oedd mab Gwriad, Brenin Ynys Manaw.[19] Cytuna haneswyr ei fod yn fab i Esyllt, aeres a nith i Hywel ap Rhodri Molwynog, sef etifedd olaf teulu Cunedda. Roedd y llinell wrywaidd yn hanes teuluol Merfyn Frych felly yn cael ei holrhain yn ôl i’r Hen Ogledd i gyfnod Llywarch Hen, sef cefnder cyntaf Urien Rheged ac felly'n ddisgynnydd uniongyrchol i Coel Hen.[20] Gan hynny, roedd Llinach Cunedda a Llinach newydd Aberffraw, fel yr adnabuwyd disgynyddion Merfyn, yn rhannu Coel Hen fel un o’u cyndeidiau. Priododd Merfyn â Nest ferch Cadell, chwaer Cyngen ap Cadell, Brenin Powys, a gyda hynny sefydlwyd Llinach Aberffraw, a enwyd ar ôl prif lys Merfyn Frych yn Ynys Môn. Nid oes cofnodion ysgrifenedig wedi goroesi am hanes y Brythoniaid yn ne’r Alban na gogledd Lloegr, ac mae’n ddigon posibl bod Merfyn Frych wedi dod â’r chwedlau a’i achau gydag ef pan ddaeth i ogledd Cymru. Yn ôl pob tebyg, roedd yr hanesion a’r llên wedi cael eu casglu a’u cofnodi yn ystod ei deyrnasiad ef a’i fab.[20]

Etifeddodd Rhodri Mawr (c.820-877) deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Merfyn Frych, yn 844. Yn sgil ei gysylltiadau teuluol ar ochr ei fam, roedd mab Merfyn Frych a Nest ferch Cadell yn medru ychwanegu Powys at ei deyrnas wedi i’w ewythr farw yn ystod pererindod i Rufain yn 855. Drwy ei briodas gydag Angharad ferch Meurig, chwaer Brenin Gwgon o Seisyllwg, pan foddodd Gwgon heb etifedd yn 872, daeth Rhodri yn stiward dros ei deyrnas, gan osod ei fab, Cadell ap Rhodri, yn ddeiliad frenin (subject king). Gan hynny, Rhodri Mawr oedd y rheolwr cyntaf ers cyfnod Cunedda i reoli'r rhan helaethaf o Gymru.[21]

Pan fu Rhodri farw yn 878, chwalwyd yr undod roedd wedi llwyddo i'w greu a rhannwyd ei deyrnas yn unedau a reolwyd gan ei feibion. Mab hynaf Rhodri, Anarawd ap Rhodri, etifeddodd Gwynedd, a llwyddodd i atgyfnerthu llys brenhinol Aberffraw fel y teulu a fyddai’n rheoli Gwynedd tan 1283. Roedd llwyddiannau Rhodri a’i olynydd, Anarawd, wedi gosod sylfaen gref ar gyfer hyrwyddo teulu Aberffraw fel y prif arglwyddi dros yr arglwyddi Cymreig eraill, gan gynnwys brenhinoedd Powys a'r Deheubarth.[22]

Yn ôl llawysgrif ‘Hanes Gruffydd ap Cynan’, a ysgrifennwyd ar ddiwedd y 12g neu ddechrau’r 13g, fe wnaeth y teulu atgyfnerthu eu hawl fel prif ddisgynyddion Rhodri Mawr, a oedd wedi concro rhan helaeth o Gymru yn ystod ei deyrnasiad.[22] Ysgrifennwyd bywgraffiadur Gruffydd ap Cynan yn Lladin yn wreiddiol ac ar gyfer cynulleidfa ehangach y tu allan i Gymru. Arwyddocâd y datganiad hwn, yn ôl yr hanesydd John Davies, oedd bod llinach Aberffraw yn datgan ei bod yn hawlio ei hawdurdod yng Nghymru, oherwydd ‘hawl absoliwt drwy ddisgyniad’ ac nad oedd yn ddyledus am yr hawl hwnnw i frenhinoedd Lloegr am eu statws yng Nghymru.[23]

Disodlwyd dominyddiaeth llinach frenhinol Aberffraw yng ngwleidyddiaeth Cymru am gyfnod pan ddaeth Hywel Dda, a disgynnydd i Rhodri Mawr, yn Frenin y Deheubarth yn 942. Roedd brenhinoedd Gwynedd yn y cyfnod hwn yn dioddef cyfnod cythryblus yn eu hanes pan laddwyd Idwal Foel a’i frawd, Elisedd, mewn brwydr yn erbyn Brenin Lloegr, Edmund I. Yn ôl arferiad, dylai meibion Idwal fod wedi ei olynu, sef Ieuaf ac Iago ab Idwal, ond alltudiwyd hwy i Iwerddon gan Hywel Dda, a sefydlodd ei hun fel rheolwr Gwynedd gyfan tan ei farwolaeth yn 950. Mae llawysgrifau sydd wedi goroesi yn dangos bod Cyfraith Hywel yn cydnabod awdurdod arglwyddi Aberffraw fel uwcharglwyddi yng Nghymru yn ogystal â rheolwyr y Deheubarth.[24]

Rhwng 986 a 1081 bu gorsedd Gwynedd yn aml yn ffocws gwrthdaro a chynnen rhwng gwahanol ymgeiswyr oddi mewn a thu allan i'r deyrnas. Ymhlith yr ymgeiswyr hyn roedd Gruffydd ap Llywelyn, a oedd yn wreiddiol o Bowys, ac a ddisodlodd linell Aberffraw gan wneud ei hun yn frenin Gwynedd. Erbyn 1055 roedd wedi sefydlu ei hun yn frenin dros ran helaeth o Gymru. Ychwanegodd rhai o diroedd cyfagos Lloegr yn dilyn llwyddiannau milwrol yn erbyn lluoedd Lloegr, ond trechwyd ef yn y diwedd gan Harold Godwinson yn 1063. Lladdwyd ef yn ddiweddarach gan ei filwyr ei hun er mwyn sicrhau cytundeb gyda Lloegr. Daeth hanner-brodyr Gruffydd, ar ochr ei fam, sef Bleddyn ap Cynfyn a’i frawd Rhiwallon o deulu Mathrafal Powys, i delerau gyda Harold, a sefydlodd y ddau reolaeth dros Wynedd a Phowys.[8]

Gruffydd ap Cynan

Gruffydd ap Cynan yn y carchar yng Nghaer

Yn fuan wedi’r Goncwest Normanaidd yn 1066, dechreuodd y Normaniaid lansio cyrchoedd a rhoi pwysau ar ochr ddwyreiniol Gwynedd, a bu ymladd mewnol hefyd wedi i Bleddyn ap Cynfyn gael ei lofruddio yn 1075 gan ei ail gefnder, Rhys ab Owain, Brenin y Deheubarth. Ond roedd sialens newydd ar y gorwel, sef Gruffydd ap Cynan, ŵyr alltud Iago ab Idwal ap Meurig, a oedd wedi bod yn byw yn ardal Llychlynaidd-Gwyddelig Dulyn. Roedd Trahaearn, sef perthynas i Bleddyn ap Cynfyn, wedi ceisio cipio gorsedd Gwynedd, ond lladdwyd ef gan Gruffydd mewn brwydr. O ganlyniad, adferwyd llinell hynafol Rhodri Mawr ar orsedd Gwynedd.[25]

Adfeddiannodd Gruffudd ap Cynan (c.1055-1137) ei etifeddiaeth a rheolaeth dros Wynedd yn dilyn ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081 dros ei wrthwynebwyr o Fathrafal.[25] Ond yn y blynyddoedd dilynol, wynebodd Gwynedd flynyddoedd cythryblus eto o gyfeiriad y Normaniaid a chipiwyd a charcharwyd Gruffudd ap Cynan gan Hugh d’Avranches (Iarll Caer) ger Corwen, gan dreulio deuddeg mlynedd yn y carchar. Erbyn 1094 roedd lluoedd y Normaniaid yn meddiannu bron y cyfan o Gymru, ond er iddynt adeiladu llawer o gestyll i atgyfnerthu eu pŵer, bregus oedd eu gafael ar rannau o Gymru.

Dihangodd Gruffudd ap Cynan o’r carchar yng Nghaer a lladd yr arglwydd Normanaidd Robert o Ruddlan mewn brwydr ar y traeth ger Deganwy ar 3 Gorffennaf 1093. Erbyn 1095 roedd Gruffudd wedi adfeddiannu Gwynedd, ac erbyn 1098 roedd wedi ffurfio cynghrair gyda Cadwgan ap Bleddyn, o lys Mathrafal, Powys. Gruffudd a Chadwgan oedd arweinyddion gwrthsafiad y Cymry yn erbyn presenoldeb y Normaniaid yng ngogledd a chanolbarth Cymru.[26] Erbyn 1098 lansiodd Hugh, Iarll Caer a Hugh o Drefaldwyn, 2il Iarll Amwythig, ymosodiad arall ar y Fenai, gyda Gruffudd a Cadwgan yn ailymgynnull ar Ynys Môn gyda’r bwriad o ddefnyddio eu caerau ar yr ynys fel mannau i lansio cyrchoedd dialgar yn erbyn y Normaniaid.[27] Bradychwyd Gruffudd a Cadwgan gan fflyd o Northmyn a gorfodwyd hwy i ffoi i Iwerddon mewn sgiff.

Ar ddiwedd 1098 glaniodd Gruffudd a Chadwgan yn ôl yng Nghymru, a llwyddo i adfeddiannu Ynys Môn, gan orfodi Herve de Breton, Esgob Bangor, i ffoi yn ôl i ddiogelwch Loegr. Dros y tair blynedd nesaf, llwyddodd Gruffudd i adfeddiannu tiriogaeth Gwynedd uwch Conwy a threchu Hugh, Iarll Caer. Yn 1101, wedi marwolaeth Hugh, daeth Gruffudd a Chadwgan i delerau gyda brenin newydd Lloegr, Harri I, lle cydnabuwyd hawliau Gruffudd ar Ynys Môn, Llŷn, Dunoding (Eifionydd ac Ardudwy) ac Arllechwedd, sef tiroedd ochr uchaf i afon Conwy a oedd eisoes ym meddiant Gruffudd. Adenillwyd Ceredigion gan Cadwgan, a’i gyfran ef o etifeddiaeth y teulu ym Mhowys, oddi wrth Iarll Amwythig, sef Robert o Belleme.

Roedd y cytundeb hwn yn gydnabyddiaeth o’r trefniant newydd yng Nghymru rhwng Harri I, Gruffudd a’r arglwyddi Cymreig eraill. Rhannwyd Cymru rhwng y Pura Wallia, a ddeuai o dan reolaeth Gymreig, a’r Marchia Wallia, sef tiroedd yng Nghymru oedd dan reolaeth y Normaniaid. Fel y nododd yr hanesydd John Davies, roedd y ffin yn symud ar adegau, ond at ei gilydd arhosodd yn weddol sefydlog yn ystod y ddau gan mlynedd nesaf.[28]

Roedd Gruffudd nawr yn medru dechrau’r broses o ailadeiladu teyrnas Gwynedd, gan fwriadu dod â sefydlogrwydd i Gymru. Dangosodd Gruffudd ei ddymuniad i atgyfnerthu awdurdod brenhinol Aberffraw yng ngogledd Cymru pan gynigiodd loches i’r Cymry a ddisodlwyd o’r Berfeddwlad, yn enwedig o'r Rhos, a oedd yn cael eu herlid gan Richard, 2il Iarll Caer, ar y pryd.

Wedi ei frawychu gan awdurdod a dylanwad cynyddol Gruffudd yng ngogledd Cymru, a’r sôn bod Gruffudd yn rhoi lloches i wrthryfelwyr o'r Rhos yn erbyn Caer, lansiodd Harri I ymgyrch yn erbyn Gwynedd a Phowys yn 1116 a gynhwysai luoedd dan arweiniad y Brenin Alexander I o’r Alban. Ceisiodd Owain ap Cadwgan o Geredigion loches ym mynyddoedd Gwynedd, ond tacteg Maredudd ap Bleddyn o Bowys oedd llunio heddwch gyda choron Lloegr wrth i’r lluoedd Normanaidd agosáu. Gorfodwyd Owain a Gruffudd i gyfaddawdu yn nhelerau’r cadoediad, ac er na chollodd Gruffudd unrhyw dir na statws, gorfodwyd ef i dalu gwrogaeth, tyngu llw o ffyddlondeb a thalu dirwy drom.

Erbyn 1116 roedd Gruffudd yn clafychu oherwydd henaint, a’i olwg yn dirywio. Parhaodd i reoli Gwynedd am weddill ei deyrnasiad, gyda’i feibion Cadwallon, Owain a Cadwaladr yn arwain lluoedd Gwynedd ar ôl 1120. Polisi Gruffudd, a fyddai’n cael ei weithredu gan ei feibion a’i fabwysiadu’n ddiweddarach gan reolwyr Gwynedd wedi hynny, fyddai ceisio ad-feddiannu uchafiaeth Gwynedd drwy osgoi pryfocio a chythruddo coron Lloegr.[27]

Ehangu Gwynedd

Rhwng 1118 ac 1137 llwyddodd Gruffudd ap Cynan i ymestyn ei awdurdod yn raddol y tu hwnt i ffiniau ei deyrnas, gan feddiannu cantrefi Rhos a Rhufoniog yn 1118, cantref Meirionnydd yn 1123, Dyffryn Clwyd yn 1124, cantrefi’r Berfeddwlad (Gwynedd Is-Conwy), a Cheredigion ym Mrwydr Crug Mawr yn 1136.[29]

Wedi i Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan, gwraig Brenin y Deheubarth a merch Gruffudd, gael ei llofruddio gan y Normaniaid, lansiwyd ymgyrch yng Ngwynedd yn 1136 i ddial am y weithred. Goresgynnodd meibion Gruffudd, sef Owain a Cadwaladr, y tiroedd a oedd o dan reolaeth y Normaniaid yng Ngheredigion, a chipiwyd Llanfihangel, Aberystwyth a Llanbadarn. Adferodd y ddau frawd y mynachod Cymreig yn Llanbadarn, oedd wedi cael eu disodli gan fynachod o Gaerloyw wedi i’r Normaniaid ddechrau rheoli Ceredigion. Erbyn diwedd Medi 1136 roedd casgliad o luoedd Cymreig wedi crynhoi yng Ngheredigion, oedd yn cynnwys lluoedd o Wynedd, y Deheubarth a Phowys, yn barod i gwrdd â’r fyddin Normanaidd ym Mrwydr Crug Mawr ger Castell Aberteifi. Trechwyd y Normaniaid yn gadarn yn y frwydr honno.[29]

Wedi marwolaeth eu tad Gruffudd yn 1237 lansiodd y brodyr Owain a Cadwaladr ail ymgyrch yng Ngheredigion a chipio cestyll Ystrad Meurig, Llanbedr Pont Steffan a Chastell Hywel. Gadawodd teyrnasiad Gruffudd ap Cynan waddol a olygai bod y sefydlogrwydd a grëwyd yn caniatáu i deyrnas Gwynedd ymgryfhau. Sefydlwyd aneddiadau cadarnach gydag adeiladau carreg yn disodli adeiladau pren, ac adeiladwyd eglwysi carreg yn yr arddull Normanaidd ym Mhenmon, Aberdaron a Thywyn.

Hyrwyddodd Gruffudd bwysigrwydd Esgobaeth Bangor yng Ngwynedd ac ariannodd y gwaith o adeiladu Eglwys Gadeiriol Bangor yn ystod cyfnod Dafydd yr Albanwr fel Esgob Bangor rhwng 1120 a 1139. Cafodd gweddillion Gruffudd eu claddu yn Eglwys Gadeiriol Bangor.

Owain Gwynedd

Argraff arlunydd o Owain Gwynedd. Gan Hugh Williams, 1909

Fel ei dad, Gruffudd ap Cynan, roedd Owain Gwynedd (c.1100-1170) wedi gwneud ymdrechion glew i sicrhau sefydlogrwydd yn nhiroedd uwch Gwynedd fel na fyddai unrhyw fyddin elyniaethus yn medru ymgyrchu heibio afon Conwy.

Dynododd ei deyrnasiad 33 mlynedd o heddwch yng Ngwynedd uwch Conwy ac Ynys Môn.[30][31]

Ym mlynyddoedd diweddaraf ei deyrnasiad, roedd Owain yn defnyddio’r teitl ‘Tywysog y Cymry’, teitl, meddai’r hanesydd John Davies, a oedd yn rhoi sylwedd i’w arweinyddiaeth dros y Cymry a’i fuddugoliaethau yn erbyn coron Lloegr.

Roedd Owain hefyd wedi comisiynu bywgraffiad o hanes bywyd ei dad, sef ‘Bywyd Gruffudd ap Cynan’, lle mae’n honni ei oruchafiaeth dros reolwyr eraill Cymru ‘drwy hawl absoliwt disgyniad’, yn deillio o Rhodri Mawr yn ôl John Davies. Owain Gwynedd oedd y disgynnydd gwrywaidd hynaf o dras Rhodri Mawr ar ochr ei dad.[28]

Nid oedd mabwysiadu’r teitl ‘Tywysog’ yn hytrach na ’Brenin’ (Lladin am frenin, ‘rex’) yn golygu lleihad yn ei statws ond yn gydnabyddiaeth ei fod yn rheolwr Gwynedd ar lwyfan rhyngwladol y byd ffiwdal.

Dadleuai John Davies bod tywysogion Gwynedd yn hawlio mwy o statws a bri nag ieirll a dugau Ymerodraeth Angevin, a oedd yn awgrymu statws tebyg i Frenhinoedd yr Alban, oedd hefyd yn ddeiliad i Frenin Lloegr. Fel byddai cymdeithas Cymru yn dod fwyfwy o dan ddylanwad Ewrop mwy ffiwdal, byddai tywysogion Gwynedd yn defnyddio ffiwdaliaeth i gryfhau eu hawdurdod dros yr arglwyddi Cymreig is eu statws. Er bod tywysogion Gwynedd yn cydnabod awdurdod Brenin Lloegr, roedd cyfraith Cymru yn annibynnol ar gyfraith Lloegr, ac yn hynny o beth yn hawlio awdurdod annibynnol.[32]

Pan fu farw Owain Gwynedd yn 1170 etifeddwyd ei deyrnas gan ei fab, Hywel ab Owain Gwynedd, a mab y Wyddeles, Pyfog. Ond bu’r blynyddoedd dilynol yn rhai cythryblus, gyda’r deyrnas yn cael ei rhwygo gan ryfel cartref mewnol rhwng y garfan ‘Wyddelig’ oedd yn cefnogi Hywel a’r garfan dan arweinyddiaeth gweddw Owain Gwynedd, sef Cristin, oedd yn hyrwyddo hawliau ei mab cyfreithlon i deyrnas Gwynedd, sef Dafydd ab Owain.[33] Lladdwyd Hywel ym Mrwydr Pentraeth yn 1170[34] ac wedi iddo gipio awenau pŵer yng Ngwynedd, gyrrodd Dafydd ab Owain ei frawd Maelgwn i alltudiaeth i Iwerddon, gan feddiannu Ynys Môn yn ei chyfanrwydd.[35]

Trechwyd Dafydd gan ei nai Llywelyn ab Iorwerth. Roedd tad Llywelyn, sef Iorwerth Drwyndwn, wedi bod yn rhan o’r ymrafael yng Ngwynedd flynyddoedd ynghynt, a bu farw tua 1174. Ef oedd mab hynaf cyfreithlon Owain Gwynedd, ond oherwydd nam corfforol ni etifeddodd orsedd Gwynedd ar ôl ei dad. Erbyn diwedd y 12g, roedd mab Iorwerth, sef Llywelyn ab Iorwerth, wedi penderfynu ei fod yn mynd i hawlio pŵer yng Ngwynedd. Cynllwyniodd gyda’i gefndryd Gruffudd a Maredudd a’i ewythr Rhodri, ac yn 1194 llwyddon nhw i drechu Dafydd ym Mrwydr Aberconwy.[35]

Llywelyn Fawr

Erbyn 1200, Llywelyn ab Iorwerth, neu Llywelyn Fawr (1173-1240), fel yr adnabuwyd ef yn ddiweddarach, oedd prif (ac unig) reolwr Gwynedd. Lluniodd gytundeb â'r Brenin John o Loegr yn yr un flwyddyn, a bu ar delerau da â Brenin Lloegr am y degawd nesaf.

Llywelyn Fawr

Priododd Llywelyn ferch anghyfreithlon John, sef Siwan, yn 1205, a phan arestiwyd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys gan y Brenin John yn 1208 cymerodd Llywelyn y cyfle i ychwanegu De Powys at ei deyrnas. Dirywiodd y berthynas rhyngddo ef a John yn 1210, gyda Brenin Lloegr yn goresgyn Gwynedd yn 1211, a gorfodwyd Llywelyn i ddod i gytundeb gyda’r Brenin John. Er iddo golli ei diroedd i’r dwyrain o afon Conwy, ail-berchnogodd hwy y flwyddyn ddilynol wedi iddo lunio cynghrair gyda’r tywysogion Cymreig eraill. Lluniodd gynghrair hefyd gyda’r barwniaid oedd wedi gorfodi John i lofnodi'r Magna Carta yn 1215. Erbyn 1216, Llywelyn oedd y prif bŵer yng Nghymru a galwodd gyngor ynghyd yn Aberdyfi y flwyddyn honno er mwyn dosbarthu tiroedd i’r tywysogion eraill.

Yn dilyn marwolaeth John, cadarnhaodd Llywelyn Gytundeb Caerwrangon gyda’i olynydd, sef y Brenin Harri III, yn 1218. Bu’r pymtheg mlynedd nesaf yn rhai cythryblus, gyda Llywelyn mewn gwrthdaro gyda rhai eraill o Arglwyddi’r Mers a Brenin Lloegr, er iddo hefyd lunio cynghreiriau gyda nifer o Arglwyddi’r Mers. Roedd Cytundeb Heddwch Middle yn 1234 yn dynodi diwedd gyrfa filwrol Llywelyn, oherwydd ymestynnwyd y cadoediad fesul blwyddyn am weddill ei deyrnasiad.

Un o brif amcanion Llywelyn Fawr oedd sicrhau olyniaeth ei feibion cyfreithlon fel bod Gwynedd yn cydymffurfio â gwledydd Cristnogol eraill yn Ewrop. Drwy gefnogi hawliau ei fab ieuengaf Dafydd, denodd wrthwynebiad a gwrthryfeloedd oddi wrth y carfanau traddodiadol yng Ngwynedd oedd yn cefnogi ei fab hynaf, Gruffudd. Penderfynodd Llywelyn garcharu Gruffudd ond achosodd hyn fwy o ddrwgdeimlad, gwrthdaro a gwrthryfela. Collodd Dafydd un o’i brif gefnogwyr pan fu farw ei fam yn 1237, ac yn y cyfnod hwn bu cefnogaeth Ednyfed Fychan, Prif Ustus (Seneschal) Gwynedd, ac unigolyn pwysig yn myd gwledidyddiaeth, yn hollbwysig iddo. Pan gafodd Llywelyn strôc yn 1237 cydiodd Dafydd fwyfwy yn awenau llywodraeth teyrnas Gwynedd, ac yn dilyn marwolaeth Llywelyn yn 1240 etifeddodd y deyrnas honno.[36]

Dafydd ap Llywelyn

Er bod Harri III wedi cydnabod hawliau Dafydd ap Llywelyn (c.1208-1246) yng Ngwynedd, nid oedd hyn yn bodoli y tu allan i'r tiroedd hynny. Wedi i Harri III oresgyn Gwynedd yn 1241 a gorfodi Dafydd i ildio, bu’n rhaid i Dafydd gytuno ar Gytundeb Gwerneigron yn 1241. Roedd yn rhaid i Dafydd ollwng ei afael ar ei holl diroedd y tu allan i Wynedd a rhyddhau ei hanner-brawd Gruffudd i Harri. Er bod Harri o bosibl wedi gobeithio defnyddio Gruffudd fel ymgeisydd fyddai’n medru herio awdurdod Dafydd yng Ngwynedd yn y dyfodol, chwalwyd ei amcanion pan gwympodd Gruffudd i’w farwolaeth wrth geisio dianc o Dŵr Llundain yn 1244.

Rhoddodd hyn anogaeth i Dafydd geisio adfer ei diroedd, a ffurfiodd gynghrair gyda rheolwyr Cymreig eraill a chychwyn ymgyrch yn erbyn y Saeson oedd yn meddiannu rhannau o Gymru. Bu ymladd ffyrnig, ond gyda marwolaeth sydyn Dafydd, ac yntau heb etifedd, roedd yr olyniaeth yn cael ei hetifeddu gan feibion Gruffudd, sef Owain Goch ap Gruffydd a Llywelyn ap Gruffudd. Rhannwyd y deyrnas rhyngddynt.[36][37]

Llywelyn ap Gruffudd

Ar farwolaeth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, daeth ei ddau nai i gytundeb a rhannwyd Gwynedd rhyngddynt. Roedd Llywelyn ap Gruffudd (c.1222-1282) wedi ymladd gyda Dafydd yn ystod ei ymgyrch olaf a rhyddhawyd Owain, a oedd wedi bod yn y carchar gyda’i dad, Gruffudd, yn Lloegr ers 1242. Dychwelodd Owain i Wynedd a daeth ef a’i frawd i gytundeb ynghylch rhannu tiroedd Gwynedd rhyngddynt.

Fel rhan o dacteg wleidyddol graff, mynnodd Harri III bod hawl gan frawd ieuengaf y ddau, sef Dafydd ap Gruffudd, i’w gyfran o diroedd Gwynedd. Gwrthododd Llywelyn hyn gan honni y byddai’n gwanhau’r deyrnas ac o fantais wleidyddol i Loegr. Lluniodd Dafydd gynghrair gydag Owain ac ymladdodd y ddau Frwydr Bryn Derwin yn erbyn Llywelyn yn 1255. Llywelyn oedd yn fuddugoliaethus a chosbodd ei ddau frawd drwy garcharu Owain ac atafaelu ei diroedd, a phenderfynodd hefyd garcharu Dafydd cyn dod i delerau ag ef.

Rhwng 1255 a 1258 gweithredodd Llywelyn ymgyrchoedd yn erbyn presenoldeb Lloegr ar diroedd Cymru, gan ennill cefnogaeth cynghreiriaid yn y Deheubarth a Phowys. Erbyn 1258 roedd wedi llwyddo i gael ei gydnabod gan bron pob un o reolwyr cynhenid Cymru fel Tywysog Cymru. Ond erbyn 1263 roedd ei frawd, Dafydd, wedi penderfynu ei fod am ffoi i gael lloches yn Lloegr.

Yn 1265 llofnododd Llywelyn Gytundeb Woodstock gyda Simon de Montfort, a thrwy wneud hynny creodd gynghrair yn erbyn Harri III. Manteisiodd Llywelyn ar y trafferthion oedd gan Harri ar y pryd gyda’i farwniaid. Lladdwyd de Montfort gan y Tywysog Edward, mab hynaf Harri III, ym Mrwydr Evesham, ond parhaodd yr heddwch rhwng Cymru a Lloegr, a ffurfiwyd trefniant swyddogol yr heddwch yng Nghytundeb Trefaldwyn yn 1267. Roedd Brenin Lloegr yn y cytundeb yn cydnabod teitl ‘Tywysog Cymru’, ac roedd y tywysogion cynhenid Cymreig yn dod yn ddeiliaid i Llywelyn. Rhoddwyd cydnabyddiaeth swyddogol i fodolaeth Tywysogaeth Cymru a Thywysog Cymru fel ei arweinydd.

Ond buan y chwalwyd y trefniant hwn yn dilyn marwolaeth Harri III yn 1272. Erbyn 1276 cyhoeddodd Edward I fod Llywelyn yn wrthryfelwr, ac roedd Brenin newydd Lloegr yn unigolyn oedd am ddangos ei feistrolaeth dros Brydain gyfan. Anfonodd Edward luoedd enfawr i oresgyn Llywelyn a chwalu undod Cymru, ac yn fuan iawn gorfodwyd Llywelyn i dynnu'n ôl i galon teyrnas Gwynedd. Meddiannodd Edward Ynys Môn a’r Berfeddwlad a gorfodwyd Llywelyn i lofnodi Cytundeb Aberconwy yn 1277, a oedd yn lleihau ei deyrnas i’r hyn oedd ar gychwyn ei deyrnasiad yn 1247, sef rhai o’r tiroedd uwch Conwy. Caniataodd Edward rhai tiroedd i Dafydd yn y Berfeddwlad, oedd yn cynnwys Rhos a Rhufoniog.

Ganwyd merch Llywelyn ac Eleanor de Montfort yn 1282, sef Gwenllian ferch Llywelyn, ond bu Eleanor farw ar enedigaeth y ferch. Roedd Llywelyn yn wynebu sefyllfa a her argyfyngus i’w reolaeth ar ei deyrnas, oedd yn cynnwys Gwynedd a'r Deheubarth. Yna, penderfynodd Dafydd ymuno gyda Llywelyn mewn gwrthryfel yn erbyn Edward yn 1282, ac anfonwyd Archesgob Caergaint, John Peckham i ogledd Cymru fel negodwr. Cynigiwyd llwgrwobrwy i Llywelyn, sef £1,000 o bunnoedd y flwyddyn ac ystâd yn Lloegr petai yn ildio ei diroedd i Edward. Gwrthododd Llywelyn y cynnig, a’r mis canlynol, ar 11 Rhagfyr 1282, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri mewn rhagod (ambush).[10][38]

Dafydd ap Gruffudd

Yn fuan wedi hyn, cyhoeddodd Dafydd ap Gruffudd ei hun yn Dywysog Cymru. Parhaodd i ymladd gyda chefnogaeth Goronwy ap Heilin, Arglwydd Rhos a’r brodyr Hywel ap Rhys Gryg a Rhys Wyndod, oedd wedi colli eu tiroedd yn y Deheubarth. Yn ystod y misoedd nesaf, gyda lluoedd Lloegr yn amgylchynu Eryri a’r bobl yn newynu, dechreuodd gwrthsafiad Dafydd bylu a chwalu. Gorfodwyd ef i symud o un castell i’r llall yng ngogledd Cymru. Bu’n rhaid iddo adael Dolwyddelan ar 18 Ionawr 1283, yna amddifadu Castell Dolbadarn cyn symud i lawr i Gastell y Bere ger Llanfihangel-y-pennant. Erbyn mis Mawrth, a chyda lluoedd Edward yn agosáu at y castell er mwyn ei roi dan warchae, bu’n rhaid i Dafydd, ei deulu a gweddillion ei lywodraeth ffoi a chysgu yn yr awyr agored er mwyn osgoi cael eu cipio. Ildiodd garsiwn newynog Castell y Bere ar Ebrill 25. Wedi ildiad y Bere, roedd cofnodion yn dangos bod Dafydd yn dal i arwain cyrchoedd o’r mynyddoedd ym Mai 1283 gyda chymorth Goronwy ap Heilin, Hywel ap Rhys a’i frawd Rhys Wyndod.[39]

Ar 22 Mehefin 1283 cipiwyd Dafydd ap Gruffudd ar dir uchel uwchben Abergwyngregyn, yn agos i'r Bera Mawr, mewn cuddfan o’r enw ‘Nanhysglain’. Yn ôl cofnodion roedd cuddfan Dafydd wedi cael ei fradychu ac anafwyd ef yn ddifrifol wrth iddo gael ei gipio. Aethpwyd ag ef yn syth at Edward ar y noson honno, cyn cael ei symud drwy Gaer draw i Amwythig, ac yno ym mis Hydref 1283 cafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a’i chwarteru. Dienyddiwyd ef ar orchymyn coron Lloegr am deyrnfradwriaeth.

Diwedd annibyniaeth

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn yn 1282 a dienyddiad Dafydd ap Gruffudd yn 1283, daeth diwedd ar wyth canrif o reolaeth annibynnol gan deyrnas Gwynedd. Bellach roedd Tywysogaeth Cymru o dan arweiniad tywysog brodorol wedi dod i ben, a bellach roedd o dan awdurdod coron Lloegr. Arestiwyd aelodau eraill y teulu a’u carcharu am weddill eu hoes, gyda meibion Dafydd, sef Llywelyn ap Dafydd ac Owain ap Dafydd yng Nghastell Bryste, ac anfonwyd Gwladus ei ferch i leiandy Sixhills, a’i nith, Gwenllian i leiandy Sempringham, ill dau yn swydd Lincoln. Dim ond disgynyddion brawd iau Llywelyn, sef Rhodri, oedd yr unig gangen o brif linach Aberffraw a oroesodd. Bu fyw yn Lloegr nes ei farwolaeth tua 1315 a disgynnydd iddo oedd Owain Lawgoch, a geisiodd hawlio ei etifeddiaeth yng Ngwynedd yn ystod y 14g.[40]

O dan delerau Statud Rhuddlan yn 1284 chwalwyd teyrnas Gwynedd a’i haildrefnu ar yr un ffurf â siroedd Lloegr, sef Ynys Môn, Caernarfon, Meirionnydd, Dinbych a Sir y Fflint. Adnabuwyd y siroedd hyn wedyn fel ‘Y Dywysogaeth’ oedd o dan awdurdod coron Lloegr a chyfraith Lloegr, tra bod gweddill Cymru o dan reolaeth gwahanol Arglwyddi’r Mers oedd â'u cyfundrefn annibynnol eu hunain.[41]

Rhestr o Frenhinoedd a Thywysogion Gwynedd

Cymru yn Oes y Tywysogion, map gan Glyn Hughes
Teyrnasoedd Cymru 400-800
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959
Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies)

Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282 a dienyddiad ei frawd Dafydd ap Gruffudd y flwyddyn ganlynol, daeth teyrnas Gwynedd i ben. Ceisiodd Owain Lawgoch hawlio teyrnas Gwynedd a Chymru yn 1372 a 1377, ac yr oedd gan Owain Glyn Dŵr gysylltiadau teuluol â thywysogion Gwynedd hefyd.

Cantrefi a chymydau Gwynedd Uwch Conwy

Cantrefi[dolen farw] a teyrnasoedd Cymru yn yr oesoedd canol.

Roedd Gwynedd Uwch Conwy'n cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:

Ar Ynys Môn:

Ar dir mawr Gwynedd:

Ychwanegwyd Cantref Meirionnydd yn 1256. Roedd Dinmael yn rhan o Wynedd yn ddiweddarach yn ogystal.

Am gantrefi a chymydau Gwynedd Is Conwy, gweler y Berfeddwlad.

Cyfeiriadau

  1. "CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  2. 2.0 2.1 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 202–3. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  3. Lewis, Timothy (1913). A glossary of mediaeval Welsh law, based upon the Black book of Chirk. National Library of Scotland. Manchester : The University Press.
  4. "Full-text resources for 'Dark Age' history". www.kmatthews.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.
  5. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 54. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  6. "MAELGWN GWYNEDD (bu farw c. 547) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  7. 7.0 7.1 Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. t. 485. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
  8. 8.0 8.1 Davies, John; Baines, Menna; Jenkins, Nigel; Lynch, Peredur. Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. t. 396.
  9. "GRUFFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1244), tywysog gogledd Cymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  10. 10.0 10.1 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 93–101. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  11. "Oes y Tywysogion | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  12. Ward-Perkins, Bryan (2000). "Why Did the Anglo-Saxons Not Become More British?". The English Historical Review 115 (462): 513–533. ISSN 0013-8266. https://www.jstor.org/stable/579665.
  13. Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. t. 121. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
  14. 14.0 14.1 14.2 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 50–51. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  15. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 9–11. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  16. "Llyfr Aneirin | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-21. Cyrchwyd 2020-09-28.
  17. Cydymaith i lenyddiaeth Cymru. Stephens, Meic, 1938- (arg. Arg. newydd). Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 1997. t. 274. ISBN 0-7083-1382-5. OCLC 38068896.CS1 maint: others (link)
  18. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 61–2. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  19. 19.0 19.1 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 35–39. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  20. 20.0 20.1 Chadwick, N. The Celts, Development of the Celtic Kingdoms (1971), tt.86
  21. "RHODRI MAWR (bu farw 877), brenin Gwynedd, Powys, a Deheubarth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  22. 22.0 22.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 79–85. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  23. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 116–7. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  24. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 47–51. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  25. 25.0 25.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 101. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  26. Warner, Philip, 1914-2000. (1977). Famous Welsh battles : where battles were fought, why they were fought, how they were won and lost. [London]: Fontana/Collins. ISBN 0-00-634151-9. OCLC 13017791.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  27. 27.0 27.1 A History of Wales: From the Norman Invasion to the Edwardian Conquest gan John Edward Lloyd, tt 21-22
  28. 28.0 28.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 109, 127–130, 137, 141, 149, 166, 176. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  29. 29.0 29.1 A History of Wales: From the Norman Invasion to the Edwardian Conquest, John Edward Lloyd, tt.77-79
  30. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 120–121. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  31. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 70–75. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  32. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 148. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  33. "DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1203) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  34. "BATTLE OF PENTRAETH MEMORIAL | Coflein". coflein.gov.uk. Cyrchwyd 2020-09-28.
  35. 35.0 35.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 123. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  36. 36.0 36.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 130–138. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  37. "DAFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1246), tywysog | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  38. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 139–155. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  39. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 157–158. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  40. "DAFYDD ap GRUFFYDD (bu farw 1283), tywysog Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  41. Davies, John; Baines, Menna; Jenkins, Nigel; Lynch, Peredur. Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. t. 933.

Llyfryddiaeth

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Cyfrol sy'n cynnwys llawer o wybodaeth am seiliau teyrnas Gwynedd cyn cyfnod Ein Llyw Olaf, ynghyd â llyfryddiaeth helaeth.
  • David Stephenson, The Governance of Gwynedd (Caerdydd, 1984)

Gweler hefyd