Hywel Dda

Hywel Dda
Ganwyd880 Edit this on Wikidata
Bu farw950 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadCadell ap Rhodri Edit this on Wikidata
PriodElen ferch Llywarch Edit this on Wikidata
PlantOwain ap Hywel, Rhodri ap Hywel, Edwin ap Hywel, Anhysbys, Angharad ferch Hywel, Einion ap Hywel Dda ap Cadell ap Rhodri Mawr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Dinefwr Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion
HWB
Tystiolaeth:Oes y Tywysogion

Cyfraith Hywel Dda

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Brenin teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (tua 880950).[1] Roedd yn ŵyr i Rhodri Fawr, drwy ei dad, Cadell. Ef fu'n gyfrifol am uno Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed i greu teyrnas newydd y Deheubarth. Erbyn ei farwolaeth yn 950 roedd yn rheoli Gwynedd a'r rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Brestatyn i Benfro.[2][3]

Fel ei dad-cu, Rhodri Mawr, llwyddodd i greu ymwybyddiaeth o genedligrwydd yng Nghymru, a’i gyfraniad nodedig at hynny oedd creu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, a adnabuwyd fel Cyfraith Hywel Dda. Fel disgynnydd i Rhodri Mawr, roedd Hywel yn aelod o linach frenhinol Dinefwr. Cofnodwyd ef fel Brenin y Brythoniaid yn yr Annales Cambriae ac Annals of Ulster. Mae’n cael ei ystyried ymhlith rheolwyr mwyaf nodedig Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.[3]

Roedd ei waith yn trefnu cyfreithiau traddodiadol Cymru yn gyfraniad neilltuol i helpu i greu a diffinio elfen o hunaniaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Enwyd y cyfreithiau yn Gyfraith Hywel Dda ac roedd y cyfeiriad at yr ansoddair ‘da’ yn ei enw yn adlewyrchu’r ffaith bod y cyfreithiau yn cael eu hystyried yn rhai cyfiawn a theg. Roedd yr hanesydd Dafydd Jenkins yn eu gweld fel cyfreithiau trugarog yn hytrach nag fel cosbau, gyda phwyslais ar synnwyr cyffredin wrth weinyddu’r gyfraith a chydnabyddiaeth o hawliau merched yng nghyd-destun y gyfraith. Roedd Hywel Dda yn ddyn dysgedig, hyd yn oed yn ôl safonau modern, yn gyfarwydd iawn â’r Gymraeg, Lladin a Saesneg.[4]

Mae adeilad swyddfeydd a chartref gwreiddiol y Senedd wedi cael ei enwi’n ‘Tŷ Hywel’ er anrhydedd i Hywel Dda ac mae siambr wreiddiol y Cynulliad bellach yn cael ei adnabod fel Siambr Hywel. Mae bwrdd iechyd de-orllewin Cymru wedi cael ei enwi ar ei ôl hefyd.

Bu farw Elen, gwraig Hywel, yn 943, a ganwyd pedwar o blant iddynt, sef Owain, Rhodri, Edwin ac Angharad.[1][5]

Bywyd cynnar

Hywel oedd mab y Brenin Cadell o Seisyllwg. Etifeddodd Hywel a’i frawd, Clydog, Geredigion ac Ystrad Tywi ar farwolaeth Cadell, ond bu farw Clydog ac felly etifeddodd deyrnas gyfan Seisyllwg (Ceredigion ac Ystrad Tywi) yn 920. Bu farw ei dad-yng-nghyfraith, Llywarch ap Hyfaidd, brenin Dyfed, tua 904, a thrwy ei briodas ag Elen, merch Llywarch ap Hyfaidd, merch y Brenin Llywarch o Ddyfed, ychwanegodd Ddyfed at diroedd Seisyllwg. Ychwanegodd deyrnas Brycheiniog at ei diroedd tua 930 a dyma’r tiroedd a greodd deyrnas newydd y Deheubarth.[6] Ychwanegodd Gwynedd a Phowys at honno, ac erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 950 roedd y rhan helaethaf o Gymru o dan ei reolaeth, heblaw am Forgannwg.

Roedd tad Hywel, sef Cadell, wedi cael ei osod fel Brenin Seisyllwg gan ei dad yntau, sef Rhodri Mawr o Wynedd, yn dilyn boddi Gwgon, brenin diwethaf Seisyllwg, a oedd yn ddi-etifedd, yn 872. Roedd Rhodri yn frawd-yng-nghyfraith i Gwgon, gan ei fod yn briod â’i chwaer Angharad, ac yn dilyn marwolaeth Gwgon daeth Rhodri yn stiward ar ei deyrnas. Rhoddodd hyn y cyfle i Rhodri hawlio teyrnas Seisyllwg iddo’i hun, ac roedd felly'n gallu rhoi ei fab, Cadell, yn frenin-ddeiliad yno, ac yntau’n atebol i Rhodri. Bu farw Cadell tua 911, ac mae'n ymddangos bod ei diroedd wedi cael eu rhannu rhwng ei ddau fab, sef Hywel a Clydog.[7]

Teyrnasiad

Darlun olew o Hywel gan Hugh Williams; c. 1909

Ni chofnodir unrhyw frenin arall yn Nyfed yn dilyn marwolaeth Llywarch yn 904, a thrwy ei briodas gyda merch Llywarch, Elen, sef unig etifedd honedig Llywarch, roedd Hywel wedi llwyddo i sicrhau bod y deyrnas gyfan o dan ei reolaeth ef. Defnyddiodd Hywel y cysylltiad teuluol hwn i gyfiawnhau ei hawl dros y deyrnas.[8]

Mae’n ddigon posib bod Hywel a Clydog wedi rheoli Seisyllwg gyda’i gilydd yn dilyn marwolaeth eu tad, gan eu bod wedi cyflwyno eu hunain i Edward yr Hynaf, Brenin Lloegr, yn 918.[8] Pan fu farw Cadell yn 920, gan adael y deyrnas gyfan i Hywel, roedd Hywel wedyn yn medru uno Seisyllwg, o’i ochr ef gyda Dyfed a etifeddodd o ochr ei wraig, i fod yn un deyrnas a adnabuwyd fel y Deheubarth. Hwn oedd digwyddiad arwyddocaol cyntaf teyrnasiad Hywel.

Yn 926 neu 928 aeth Hywel ar bererindod i Rufain, a thrwy wneud hynny ef oedd y tywysog cyntaf o Gymru i ymgymryd â thaith debyg.[9]

Map yn dangos newid rheolaeth Hywel Dda dros diroedd yng Nghymru     Tiroedd a reolwyd gan Hywel Dda     Tiroedd Cymreig nad oedd dan reolaeth Hywel

Ar ei ddychweliad sefydlodd berthynas agos ag Athlestan o Loegr. Bwriad Athlestan oedd sicrhau ymostyngiad brenhinoedd eraill Prydain iddo ef; yn wahanol i’r disgwyliad roedd Hywel yn fodlon ufuddhau ac ymostwng i Loegr, ond roedd hefyd yn defnyddio hynny i’w fantais pryd bynnag roedd hynny'n bosibl. Llwyddodd Hywel i ddefnyddio ei sgiliau gwleidyddol i gadw ei gysylltiad ag Athelstan a choron Lloegr i’w fantais ei hun wrth lunio ei uchelgais a’i amcanion yng Nghymru.[10]

Yn 942, penderfynodd cefnder Hywel, sef Idwal Foel, Brenin Gwynedd, ei fod am dorri’n rhydd o dra-arglwyddiaeth Lloegr, a chododd arfau yn erbyn y Brenin Edmund o Loegr.[11] Lladdwyd Idwal a’i frawd, Elisedd, mewn brwydr yn erbyn lluoedd Edmund, ac yn ôl arfer, dylai coron Idwal fod wedi cael ei hetifeddu gan ei feibion, ond ymyrrodd Hywel yn y sefyllfa. Alltudiwyd Iago a Ieuaf gan Hywel, a sefydlodd Hywel ei hun yn rheolwr Gwynedd, a oedd hefyd yn rhoi Teyrnas Powys o dan ei reolaeth, gan fod Powys o dan awdurdod Gwynedd. O ganlyniad, roedd Hywel wedi sefydlu ei hun fel brenin rhan helaethaf o Gymru, heblaw am Forgannwg a Gwent yn y de.

Bu teyrnasiad Hywel yn gyfnod treisgar yn hanes Cymru, ond roedd y gyd-ddealltwriaeth rhyngddo ef ac Athelstan yn golygu bod Hywel ac Athelstan wedi rheoli rhannau o Gymru ar y cyd. Cymaint oedd y dyfnder y ddealltwriaeth rhyngddynt fel bod Hywel wedi cael caniatâd i ddefnyddio bathdy Athelstan yng Nghaer i greu ei geiniogau arian ei hun, sef ‘Houael Rex’.[12][13]

Polisïau

Roedd cysylltiadau agos rhwng Hywel a llys Wessex. Dilynodd Hywel bolisi o gyfeillgarwch ag Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol a'r grym mwyaf ar Ynys Prydain yn y cyfnod hwnnw. Roedd Athelstan yn wŷr i Alffred Fawr, gyda’i fryd ar barhau i ymestyn, cryfhau ac adeiladu ar sylfeini awdurdod ei gyndeidiau ar draws Prydain. Cofnodir i Hywel ymweld â llys Athelstan nifer o weithiau, a'i fod wedi llofnodi nifer o ddogfennau gydag Athelstan - er enghraifft, rhwng 928 a 949,[14] lle disgrifiwyd ef yn rhai ohonynt fel Subregulus neu ‘is-frenin’. Mewn seremoni ar lan afon Gwy yn 927 roedd Hywel wedi cydnabod ei fod yn ‘is-frenin’ i Athelstan, a oedd drwy’r cytundeb yn ‘ben-arglwydd’ ar Hywel.[15] Arwydd arall o’r berthynas rhwng y ddau reolwr oedd bod Hywel wedi bod yn bresennol yng nghoroniad brawd Athelstan, sef Eadred, yn 946. Pan ymladdwyd Brwydr Brunanburh yn 937 rhwng Athelstan a byddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynnaidd Dulyn, Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud, ni chofnodir i'r Cymry gymryd rhan yn y frwydr. Mae'n debyg mai oherwydd dylanwad Hywel y bu hyn. Fodd bynnag, nid oedd polisi Hywel at ddant pob un o'i ddeiliaid. Mae’r gerdd ddarogan wladgarol Armes Prydein, a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod hwn, yn galw am gynghrair rhwng y Cymry a'r bobloedd eraill yn erbyn y Saeson, ond anwybyddwyd ei ymbil gan Hywel.[16]

Mae safbwyntiau amrywiol ynghylch pam roedd Hywel mor awyddus i gadw cysylltiad clos â llys Athlestan. Honnai’r hanesydd J.E. Lloyd bod Hywel yn edmygydd o Wessex, tra bod D.P. Kirby yn awgrymu bod hynny’n dangos bod Hywel yn bragmataidd ac ymarferol ei agwedd, a'i fod yn cydnabod realiti pŵer ym Mhrydain ganol y 10g.[17] Mae’n ddiddorol nodi ei fod wedi rhoi enw Eingl-sacsonaidd, sef Edwin, ar un o’i feibion, ac roedd llawer o nodweddion cyffredin rhwng Hywel ac Athlestan – roedd y ddau wedi datblygu eu harian eu hunain, roedd y ddau yn rheoli teyrnasoedd, ac roedd y ddau wedi llunio llyfr cyfraith i’w teyrnasoedd priodol.

Cyfraith Hywel

Yn y 10g, etifeddodd Hywel Dda dde Seisyllwg ac yn 942 fe lwyddodd i uno Cymru gyfan heblaw Morgannwg.[18] Yn ôl y traddodiad, cynhaliodd gynulliad tua 945 yn Hendy-gwyn o chwech dyn o bob cantref yn ei deyrnasoedd er mwyn sefydlu cyfraith newydd. Roedd rhan fwyaf helaeth y cyfraith hwn yn cynnwys arferion Cymreig brodorol ac hefyd ychydig bach o ddylanwad Gwyddelig a Sacsonaidd. Yn y canrifoedd hwyrach, cydnabuwyd y cyfreithiau fel ffactor a unwyd y Cymry.[19]Roedd y cyfreithiau'n cynnwys gwybodaeth am sut byddai gwahanol droseddau fel llofruddiaeth a dwyn yn cael eu cosbi - er enghraifft, ‘sarhad’ a ‘galanas’; a hawliau pobl o safbwynt y gyfraith - er enghraifft, hawliau merched a dulliau profi euogrwydd.[1]

Pwrpas y rhaglithiau i’r cyfreithiau oedd pwysleisio cefndir a tharddiad brenhinol a Christnogol y cyfreithiau. Roedd hyn yn bwysig yn wyneb ymosodiadau ar y gyfraith o’r tu allan i Gymru, yn enwedig yn ystod cyfnod John Peckham fel Archesgob Caergaint. Dilynodd y Cymry Gyfraith Hywel Dda tan yr 16g pan basiwyd Deddfau Uno 1536 / 1542 gan Harri VIII, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i Hywel Dda drwy Rhodri Mawr.[16][20] Yn draddodiadol, cysylltir enw Hywel â chyfreithiau'r Cymry yn ystod y Canol Oesoedd, a gelwir hwy oherwydd hynny yn "Gyfraith Hywel Dda" neu "Gyfraith Hywel".[21]

Chwalu

Cerflun o Hywel gan F. W. Pomeroy, Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Yn dilyn ei farwolaeth yn 950, rhannwyd teyrnas Hywel yn dair rhan: ail-feddiannwyd Gwynedd a Phowys gan feibion Idwal Foel tra etifeddwyd y Deheubarth gan ei fab Owain.[2][16][22]

Gwaddol Hywel

Erbyn diwedd cyfnod Hywel roedd Cymru yn wlad unedig, fwy neu lai, gyda ffiniau pendant â Lloegr. Roedd ganddi ei hiaith ei hun, ei heglwys ei hun, ei llenyddiaeth a'i chyfreithiau ei hun, a'i system lywodraethu ei hun. Yn anffodus, yn dilyn marwolaeth Hywel, bu'r gwahanol frenhinoedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd tan i Gruffudd ap Llywelyn, gor, or ŵyr Hywel Dda, ddod yn benarglwydd ar y Cymry yn yr 11g. Lladdwyd ef mewn brwydr yn erbyn Tostig a Harold Godwin yn 1063.[15][23]

Roedd Hywel Dda yn wleidydd craff a oedd yn troedio’n ofalus, yn enwedig yn ei berthynas gyda Lloegr, ac yn sylweddoli bod yn rhaid iddo gadw’r ddysgl yn wastad gydag Athelstan. Roedd cynghreirio gyda llys Wessex yn dacteg strategol graff a defnyddiol yn erbyn y Llychlynwyr, os oedd am sicrhau ei amcanion hirdymor, sef creu Cymru unedig.[24]

Roedd yn ddeddf-roddwr a fu’n ffigwr allweddol o ran trefnu a chydlynu pobl a dysgedigion o bob rhan o Gymru yn Hendy-gwyn ar Daf er mwyn sefydlu un gyfraith gydnabyddedig i Gymru. Yn yr un modd â gwledydd eraill yn Ewrop ar y pryd, roedd perchnogi cyfraith gwlad yn rhan bwysig o droi brenhiniaeth yn wladwriaeth.[24]

Heddiw, mae Prifysgol Cymru yn rhoi Gwobr Goffa Hywel Dda am ymchwil i gyfraith a defod Cymru yn y Canol Oesoedd. Ceir copi o un o destunau enwocaf y Gyfraith (llawysgrif Peniarth 28) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a gellir darllen y llawysgrif ar-lein hefyd.[2]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 47–51. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. 2.0 2.1 2.2 "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-09-28.
  3. 3.0 3.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 85. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  4. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 86. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  5. Archaeologia Cambrensis (yn Saesneg). W. Pickering. 1864.
  6. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 84. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  7. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 844. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  8. 8.0 8.1 Syr John Edward Lloyd (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (yn English). Longmans, Green. t. 333.CS1 maint: unrecognized language (link)
  9. "HYWEL DDA (bu farw 950), brenin a deddfwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  10. John Edward Lloyd (1912). A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest (yn Saesneg). Longmans, Green, and co. tt. 336–338.
  11. "IDWAL FOEL (bu farw 942), brenin Gwynedd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-09-28.
  12. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. t. 50. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  13. Williams, Gwyn A. (1985). When was Wales? : a history of the Welsh. Harmondsworth: Penguin. t. 56. ISBN 0-14-022589-7. OCLC 13012327.
  14. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 458. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  15. 15.0 15.1 Williams, Gwyn A. (1985). When was Wales? : a history of the Welsh. Harmondsworth: Penguin. t. 58. ISBN 0-14-022589-7. OCLC 13012327.
  16. 16.0 16.1 16.2 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. tt. 92–3. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  17. Kirby, D.P. (1976). "Hywel Dda: Anglophil?". Welsh History Review 8: 1-13.
  18. Gower, Jon (2013). The Story of Wales (yn Saesneg). BBC Books. tt. 67–82. ISBN 978-1-84990-373-8.
  19. Watkin, Thomas Glyn (2007). The Legal History of Wales (yn Saesneg). University of Wales Press. tt. 44–49. ISBN 978-0-7083-2545-2.
  20. "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-09-28.
  21. "Tystiolaeth: Oes y Tywysogion". hwb.gov.wales. Cyrchwyd 2020-09-28.
  22. Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 59–60. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  23. "GRUFFUDD AP LLYWELYN". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 28 Medi 2020.
  24. 24.0 24.1 Williams, Gwyn A. (1985). When was Wales? : a history of the Welsh. Harmondsworth: Penguin. tt. 55–56. ISBN 0-14-022589-7. OCLC 13012327.

Dolenni allanol

Hywel Dda
Ganwyd: 880? Bu farw: 950
Rhagflaenydd:
Idwal Foel
Brenin Gwynedd
920950
Olynydd:
Iago ab Idwal
Ieuaf ab Idwal
Rhagflaenydd:
Rhodri ap Hyfaidd
Brenin Dyfed
905909
Olynydd:
Cyfunwyd y Teyrnasoedd
Rhagflaenydd:
Cadell ap Rhodri
Brenin Seisyllwg
909
Olynydd:
Cyfunwyd y Teyrnasoedd
Rhagflaenydd:
Crewyd wrth gyfuno Dyfed a Seisyllwg
Brenin Deheubarth
909950
Olynydd:
Owain ap Hywel
Rhodri ap Hywel
Edwin ap Hywel
Rhagflaenydd:
Llywelyn ap Merfyn
Brenin Powys
942950
Olynydd:
Owain ap Hywel
Rhodri ap Hywel
Edwin ap Hywel

Read other articles:

Campaña del Kert Parte de conflictos hispano-marroquíes y guerra del Rif Fecha 24 de agosto de 1911-15 de mayo de 1912Lugar Guelaya (Rif oriental, Marruecos)Casus belli Yihad contra la ocupación españolaConsecuencias Consolidación de la ocupación española del territorio al este del río KertBeligerantes España Cabilas rifeñas Comandantes José García AldaveAgustín LuqueDámaso BerenguerSalvador Díaz Ordóñez El Mizzian Fuerzas en combate Ejército de TierraRegularesJarkas rifeña...

本條目存在以下問題,請協助改善本條目或在討論頁針對議題發表看法。 此條目没有列出任何参考或来源。 (2020年7月29日)維基百科所有的內容都應該可供查證。请协助補充可靠来源以改善这篇条目。无法查证的內容可能會因為異議提出而被移除。 此条目也许具备关注度,但需要可靠的来源来加以彰显。(2020年8月6日)请协助補充可靠来源以改善这篇条目。 百度汉语是百度推

Olebile Gaborone Líder de la Oposición de Botsuana 17 de octubre de 2009-5 de agosto de 2010Presidente Ian KhamaPredecesor Otsweletse MoupoSucesor Botsalo Ntuane Miembro de la Asamblea Nacionalpor Tlokweng 30 de octubre de 2004-24 de octubre de 2014Predecesor Circunscripción creadaSucesor Same Bathobakae Información personalNacimiento 1947Bechuanalandia británicaNacionalidad BotsuanaEducaciónEducado en Universidad de BotsuanaUniversidad de ManchesterInformación profesionalOcupación Po...

この記事には複数の問題があります。改善やノートページでの議論にご協力ください。 出典がまったく示されていないか不十分です。内容に関する文献や情報源が必要です。(2012年4月) 出典は脚注などを用いて記述と関連付けてください。(2012年4月) 独自研究が含まれているおそれがあります。(2012年4月)出典検索?: ロマヌス ローマ教皇 – ニュー...

Франсіско Монтеро Особисті дані Народження 14 січня 1999(1999-01-14) (24 роки)   Севілья, Іспанія Зріст 185 см Громадянство  Іспанія Позиція захисник Інформація про клуб Поточний клуб «Арока» Номер 4 Юнацькі клуби ?–20142014–2018 «Нервіон» «Атлетіко» Професіональні клуби* Роки К�...

А́ккрські Конфере́нції — конференції народів Африки, що відбулись у столиці Гани Аккрі 1958. Перша Аккрська Конференція незалежних країн Африки — ОАР, Судану, Лівії, Ефіопії, Марокко, Ліберії, Гани і Тунісу (15—22 квітня) підтвердила резолюції Бандунгської та Каїрської к�...

UK soap opera character, created 2011 Soap opera character Joel DexterHollyoaks characterRory Douglas-Speed as Joel DexterPortrayed byAndrew Still (2011–2013)Rory Douglas-Speed (2016–present)Duration2011–2013, 2016–presentFirst appearance22 November 2011 (2011-11-22)ClassificationPresent; regularIntroduced byGareth Philips (2011)Bryan Kirkwood (2016)Spin-offappearancesHollyoaks Later (2012)Andrew Still as Joel DexterIn-universe informationOther namesScott...

Dr. Lane Murray UnitLocation in TexasLocation1916 North Hwy 36 Bypass Gatesville, Texas 76596Coordinates31°28′35″N 97°43′35″W / 31.47639°N 97.72639°W / 31.47639; -97.72639StatusOperationalSecurity classG1-G4, Administrative SegregationCapacity1,341OpenedNovember 1995Managed byTDCJ Correctional Institutions DivisionWardenAudrey EnglandCountyCoryell CountyCountryUSAWebsiteDr. Lane Murray Unit Aerial photograph of the prisons in Gatesville, January 13, 1996, U...

Football stadium in Bangalore, India Bangalore Football StadiumThe stadium on a matchday of Bangalore Super DivisionLocationMagrath Road, Bangalore, KarnatakaCoordinates12°58′08″N 77°36′42″E / 12.968866°N 77.611585°E / 12.968866; 77.611585Public transit Purple at MG RoadOwnerKarnataka State Football AssociationCapacity15,000 to 40,000 (1969–2013)[5][6]8,400 (2013–)[7]SurfaceArtificial turfConstructionBroke ground1967[1]Op...

O Presbiterianismo é a terceira maior família denominacional protestante histórica no Rio Grande do Norte (atrás apenas dos batistas e adventistas), correspondendo a 0,3% da população da unidade federativa.[1] História O Presbiterianismo chegou ao Rio Grande do Norte em 1879. Neste ano, o Rev. John Rockwell Smith, missionário norte-americano que trabalhava em Pernambuco, enviou os colportores Francisco Filadelfo de Sousa Pontes e João Mendes Pereira Guerra para atuarem no Estado. Ele...

This article needs additional citations for verification. Please help improve this article by adding citations to reliable sources. Unsourced material may be challenged and removed.Find sources: Mannheim National Theatre – news · newspapers · books · scholar · JSTOR (September 2012) (Learn how and when to remove this template message) Theatre and opera company in Mannheim, Baden-Württemberg, Germany Mannheim National Theatre is Germany's biggest theat...

Human settlement in Northern IrelandMagheraIrish: Machaire RáthaLocation within County DownCountyCounty DownCountryNorthern IrelandSovereign stateUnited KingdomPoliceNorthern IrelandFireNorthern IrelandAmbulanceNorthern Ireland UK ParliamentSouth Down List of places UK Northern Ireland Down 54°14′29″N 5°53′59″W / 54.241439°N 5.899615°W / 54.241439; -5.899615 Maghera is a civil parish in County Down, Northern Ireland. It is situated in the histori...

Television channel Alghadeer TVقناة الغدير الفضائيةCountryIraqBroadcast areaWorldwide, via satellite and internetProgrammingLanguage(s)English, ArabicHistoryLaunched2003LinksWebsitewww.alghadeertv.netAvailabilityStreaming mediaLive streamalghadeertv.net/live-broadcast Alghadeer TV (Arabic: قناة الغدير الفضائية) is an Iraqi satellite television channel based in Baghdad, Iraq. The channel was launched in 2003. The channel is owned by the Badr Organization. ...

Japanese infantry regiment Central Readiness RegimentActiveMarch 26, 2008 – presentCountry JapanBranch Japan Ground Self-Defense ForceTypeMechanized infantryRoleRapid deploymentSizeapprox. 700 soldiers[1]Part ofGround Component Command (陸上総隊)[2]Garrison/HQUtsunomiya, Tochigi PrefectureNickname(s)Chū-Soku-Ren (中即連)Motto(s)Who Else but Us (俺がやらねば誰がやる)Engagements・South Sudan PKO Mission・2021 Afghanistan RJNO Operation・Oper...

Artikel ini memberikan informasi dasar tentang topik kesehatan. Informasi dalam artikel ini hanya boleh digunakan hanya untuk penjelasan ilmiah, bukan untuk diagnosis diri dan tidak dapat menggantikan diagnosis medis. Perhatian: Informasi dalam artikel ini bukanlah resep atau nasihat medis. Wikipedia tidak memberikan konsultasi medis. Jika Anda perlu bantuan atau hendak berobat, berkonsultasilah dengan tenaga kesehatan profesional. Potongan depan perut, menunjukkan pankreas dan duodenum. Pank...

American football player (born 1951) American football player John HannahHannah in 2010No. 73Position:GuardPersonal informationBorn: (1951-04-04) April 4, 1951 (age 72)Canton, Georgia, U.S.Height:6 ft 2 in (1.88 m)Weight:265 lb (120 kg)Career informationHigh school:Albertville (Albertville, Alabama)College:Alabama (1970–1972)NFL Draft:1973 / Round: 1 / Pick: 4Career history New England Patriots (1973–1985) Career highlights and awards 7× ...

Перечень государственных и национальных гимнов. Названия государств, имеющих ограниченное международное признание, зависимых территорий, автономных регионов даны курсивом. Содержание: Начало — 0–9 А Б В Г Д Е Ё Ж З И К Л М Н О П Р С Т У Ф Х Ц Ч Ш Щ Э Ю Я Страна/территория...

God

This article is about the belief in a supreme being in monotheistic thought. For powerful supernatural beings considered divine or sacred, see Deity. For God in specific religions, see Conceptions of God. For other uses, see God (disambiguation). Principal object of faith in monotheism Representation (for the purpose of art or worship) of God in (left to right from top) Christianity, Islam, Hinduism, Sikhism, Judaism, and the Baháʼí Faith In monotheistic thought, God is usually viewed as t...

Japanese smartphone game Divine GateDivine Gate key visualディバインゲート(Dibain Gēto)GenreAction[1] GameDeveloperGungHo, AcquirePublisherGungHo Online EntertainmentGenreActionTrading card gamePlatformiOS, AndroidReleasedJP: September 30, 2013 (Android) Anime television seriesDirected byNoriyuki AbeProduced byRyōsuke HagiwaraTakumi KohamaMotohiro OdaShūichi FujimuraMasatoshi HakoWritten byNatsuko TakahashiMusic byTakumi OzawaStudioPierrotLicensed b...

Олександр Селіхов Олександр Селіхов Особисті дані Повне ім'я Олександр Олександрович Селіхов Народження 7 квітня 1994(1994-04-07) (29 років)   Наришкіно, Росія Зріст 190 см Вага 85 кг Громадянство  Росія Позиція воротар Інформація про клуб Поточний клуб «Спартак» (Москва) ...