Edwin ap Hywel |
---|
Bu farw | 954 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | teyrn |
---|
Swydd | brenin |
---|
Tad | Hywel Dda |
---|
Mam | Elen ferch Llywarch |
---|
Cyd-frenin Deheubarth oedd Edwin ap Hywel (bu farw 954).[1]
Bywgraffiad
Roedd Rhodri yn fab i Hywel Dda, ac efallai fod y ffaith i Edwin gael enw Eingl-Sacsoneg yn adlewyrchiad o bolisi gwleidyddol ei dad. Ar farwolaeth Hywel yn 950, rhannwyd ei deyrnas rhwng Edwin a'i ddau frawd, Rhodri ac Owain. Ni lwyddodd y llinach i gadw eu gafael ar Wynedd oedd wedi bod yn rhan o deyrnas eu tad ers 942. Gallodd meibion Idwal Foel, Iago ab Idwal ac Ieuaf ab Idwal, gipio grym yno.[2]
Yn 952 ymosododd Iago ac Ieuaf ar Ddeheubarth, gan gyrraedd cyn belled a Dyfed. Y flwyddyn wedyn, arweiniodd meibion Hywel gyrch yn erbyn y gogledd, gan gyrraedd cyn belled a Dyffryn Conwy cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger Llanrwst a'u gorfodi i ddychwelyd i Geredigion.[2]
Bu farw Rhodri yn 953 ac yna Edwin ei hun yn 954, gan adael Owain ap Hywel yn frenin Deheubarth.[2]
Cyfeiriadau