Mae Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gafodd gydsyniad brenhinol ar 15 Ionawr 2020. Manylwyd arno gyntaf ym mis Chwefror 2019 trwy gyfrwng Memorandwm Esboniadol.[1] Cyflwynwyd y ddeddf gan Comiswn y Cynulliad dan arweiniad Elin Jones (Llywydd), ac yn rhan gyntaf o adnewyddiad cyfansoddiadol y Cynulliad, o ganlyniad i adroddiad panel 'Senedd sy'n gweithio i Gymru.'[2]
Mae'r Ddeddf am y tro cyntaf yng Nghymru yn rhoi hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio, gan ddechrau gydag etholiad Senedd Cymru, 2021.[3] Dyma'r estyniad etholfraint fwyaf yng Nghymru ers 1969, pan ostyngodd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1969 yr oedran pleidleisio o 21 i 18. Bydd yr etholfraint hefyd yn cael ei hymestyn i "wladolion tramor cymwys".
Mae'r Ddeddf hefyd yn newid enw'r ddeddfwrfa i "Senedd Cymru" neu "Welsh Parliament".[3] Roedd y penderfyniad yn ddadleuol a gwelwyd llawer o ddadlau yn y Siambr rhwng y rhai a oedd yn ffafrio'r enw sengl Senedd a'r rhai (dan arweiniad y cyn Prif Weinidog Carwyn Jones) a geisiodd gynnwys elfen ddwyieithog. Mae canllawiau a gyhoeddwyd yn dilyn pasio'r Ddeddf yn awgrymu bod y sefydliad i'w alw'n gyffredin fel y 'Senedd' yn Saesneg a Chymraeg.[4]
Mae'r gyfraith hefyd wedi'i newid fel bod unigolion sydd wedi'u gwahardd yn cael eu gwahardd rhag cymryd sedd yn y Senedd yn hytrach na chael eu gwahardd rhag sefyll i'w hethol,[3] a thrwy sicrhau bod y Comisiwn Etholiadol yn cael ei ariannu gan y Senedd ar gyfer etholiadau Cymru ac yn atebol iddynt.
Cytunwyd ar y Bil gan y Cynulliad ar 27 Tachwedd 2019.[5] Daeth yn Ddeddf yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ar 15 Ionawr 2020.[6] Gweithredwyd cynnwys y ddeddf ar 6 Mai 2020, union blwyddyn cyn etholiad Senedd Cymru, 2021.[7]