Goronwy ab Ednyfed, Tudur ab Ednyfed, Gruffudd ab Ednyfed, Rhys Fychan, Angharad Verch Ednyfed, Llywelyn Cynfrig, Cynfrig Cynfrig, Hywel ab Ednyfed, Iorwerth Cynfrig, Madog Cynfrig, Angharad Verch Ednyfed, Gwenllian Cynfrig, Gruffudd ab Ednyfed Fychan o Henglawdd, Gwenllian ferch Ednyfed Fychan ap Cynwrig, Rhys ab Ednyfed Fychan ap Cynwrig ab Iorwerth, Llywelyn ab Ednyfed Fychan ap Cynwrig ab Iorwererth o Greunyn, Cynwrig ab Ednyfed Fychan
Dywedir i Ednyfed ennill ei fri trwy dorri pennau tri Sais mewn brwydr rhwng lluoedd Gwynedd a byddin Ranulf, Iarll Caer. Mewn canlyniad dangosai dri phen ar ei arfau a ddaeth yn arfau etifeddol Tuduriaid Môn.
Yn 1215 cymerodd drosodd yn lle Gwyn ab Ednywain fel distain Gwynedd. Roedd hyn yn un o swyddi pwysicaf y llys a gwasanethai Ednyfed fel prif gynghorydd a chennad Llywelyn gartref ac oddi cartref. Cymerodd ran yn y trafodaethau a arweiniodd at arwyddu Cytundeb Heddwch Caerwrangon yn 1218 a bu'n gynrychiolydd i Lywelyn Fawr mewn cyfarfod â Harri III o Loegr yn 1232.
Yn ôl traddodiad aeth Ednyfed ar bererindod i'r Tir Sanctaidd yn 1235; bu farw ei ail wraig Gwenllian y flwyddyn ganlynol. Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr yn 1240 parheai fel distain yng ngwasanaeth Dafydd ap Llywelyn, hyd ei farwolaeth yn 1246.
Ar farwolaeth Ednyfed canodd Elidir Sais, bardd a hanai o Fôn, farwnad iddo ac uchelwr arall o Fôn, Tegwared ab Iarddur. Mae hynny'n awgrymu fod Ednyfed wedi bod yn noddwr i Elidir Sais ac efallai i feirdd eraill: yn sicr buasai hynny'n gydnaws â'i statws uchel a'i safle yn llys Gwynedd. Er fod y gerdd yn gonfensiynol, dyma'r unig bortread sydd gennym o Ednyfed.
Llyfryddiaeth
John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., Llundain, 1911)
J.E. Caerwyn Williams (gol.), Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (Caerdydd, 1994). Cyfres Beirdd y Tywysogion. Cerdd marwnad Elidir Sais i Ednyfed, tt. 357-66.