Papur newydd Cymraeg yw Y Cymro. Erbyn heddiw Y Cymro yw'r unig bapur newydd cenedlaethol yn y Gymraeg. Roedd yn cael ei gyhoeddi'n wythnosol hyd at 2017.
Hanes
Yn 1845 fe gyhoeddwyd papur o'r enw 'Y Cymro' gyntaf, papur eglwysig ei naws gyda thipyn o Saesneg. Cyhoeddwyd y papur ym Mangor gan yr argraffydd Edward Williams ond daeth i ben wedi dwy flynedd oherwydd dyledion. Cafodd gartref yn Llundain am flwyddyn gyda John James (Ioan Meirion) yn olygydd. Symudodd i Dreffynnon am gyfnod rhwng 1851 a 1860 a'i gyhoeddi gan William Morris; yna bu yn Ninbych am chwe blynedd. Wedi bwlch o bedair blynedd fe'i ail-gychwynwyd gan Isaac Clarke, Lerpwl (gynt o 'Siop Nain', Rhuthun) lle argraffwyd anthem genedlaethol Cymru am y tro cyntaf, ar 22 Mai 1890 o dan olygyddiaeth Isaac Foulkes (Llyfrbryf). Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddodd Daniel Owen benodau o'i nofel yn y papur.
Yn 1907 mudodd y papur i'r Wyddgrug o dan olygyddiaeth y bardd T. Gwynn Jones oedd y golygydd. Daeth i ben eto rhwng 1909 a 1914 cyn cael cartref yn Nolgellau. Papur crefyddol ei naws oedd hwn o dan olygyddiaeth Evan William Evans a daeth i ben yn 1931.[1]. Cafodd ei ail-lansio yn Nolgellau yn 1920 gan William Evans.
Oes fodern
Cychwynnodd oes fodern y papur newydd yn 1932 pan brynwyd y teitl gan Rowland Thomas (c.1887-1959) o gwmni Woodall, Minshall, Thomas a'r Cwmni, Croesoswallt (a oedd yn berchen ar gwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab, Wrecsam). Er nad oedd yn siaradwr Cymraeg, breuddwyd Thomas oedd sefydlu papur newydd Cymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 4 Rhagfyr1932, gyda John Eilian yn olygydd. Nid oedd y papur yn gwbl llewyrchus i ddechrau ond erbyn 1939 roedd gobaith o wneud elw. Symudwyd y swyddfa i Groesoswallt lle aeth y papur o nerth i nerth o dan olygyddiaeth John Roberts Williams. Symudwyd eto i'r Wyddgrug pan ddaeth y papur yn rhan o gwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru.[2].
Yn 2003 cyhoeddwyd y byddai fersiwn ddigidol o'r papur ar gael drwy gwmni NewsStand.[3] Yna yn 2004, prynwyd y papur can gwmni y Cambrian News, rhan o grŵp newyddion Tindle, a symudodd y swyddfa i Borthmadog.[4] Ail-lansiwyd y papur ar newydd wedd yn Nhachwedd 2004.[5]. Lansiwyd gwefan newydd Y Cymro yn 2011, gyda detholiad o storiau o'r papur a fersiwn digidol llawn drwy danysgrifiad.[6]
Yn 2004 roedd y cylchrediad tua 4,000 ond lawr i 3,000 erbyn 2009 ac yn 2,000 erbyn 2017. Roedd yn gwerthu dros 28,000 ar ei anterth yng nghyfnod John Roberts Williams.[7].
Adfywiad 2018
Ym mis Mawrth 2017 cyhoeddodd cwmni Tindle Newspapers fod y papur ar werth a byddai'r papur yn dod i ben ym Mehefin os nad oedd prynwr.[8] Dywedodd cwmni Y Lolfa nad oedden nhw mewn sefyllfa i'w brynu[9]. Erbyn mis Mehefin roedd pedwar grŵp wedi dangos diddordeb mewn prynu'r papur er fod trafodaethau'n parhau rhyngddynt a Tindle a'r Cyngor Llyfrau. Roedd disgwyl felly mai rifyn 30 Mehefin 2017 oedd yr olaf i'w gyhoeddi am y tro. Dylan Halliday oedd y golygydd olaf o dan berchnogaeth Tindle.[10]
Yn Tachwedd 2017, cyhoeddwyd bod grŵp Cyfeillion y Cymro am ail-gychwyn cyhoeddi papur misol, gyda nawdd o £13,500 gan Gyngor Llyfrau Cymru. [11] Ffurfiwyd cwmni Cyfryngau Cymru Cyf i redeg y fenter a cyhoeddwyd y rhifyn newydd cyntaf ar ddydd Gwener, 23 Mawrth 2018. Argraffwyd 3,000 o gopïau a roedd ar gael am £1 drwy siopau Cymraeg lleol. Lansiwyd gwefan yn Mehefin 2018 oedd yn cynnwys ambell erthygl o'r papur.[12] Roedd tanysgrifiad i gopi o'r papur mewn fformat electronig (PDF) ar gael ers 2019.