Gwleidydd, awdur a newyddiadurwr o Iwerddon oedd Conor Cruise O'Brien (3 Tachwedd 1917 - 18 Rhagfyr 2008).[1]
Ganed O'Brien yn Nulyn yn fab i Francis ("Frank") Cruise O'Brien a Kathleen Sheehy. Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, ac yn ddiweddarach cafodd swyddi fel diplomydd. Daeth i amlygrwydd fel cynrychiolydd Dag Hammarskjöld, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig pan geisiodd talaith Katanga ymrannu oddi wrth y Congo yn 1961.
Yn etholiad 1969, etholwyd ef i Dáil Éireann fel aelod o Blaid Lafur Iwerddon. Wedi etholiad 1973, daeth yn weinidog dros y gwasanaeth post a theligraff yn llywodraeth Liam Cosgrave. Roedd yn nodedig am ei wrthwynebiad cryf i'r mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Rhwng 1979 a 1981, bu'n olygydd y papur newydd The Observer yn Lloegr. Yn 1996, daeth yn aelod o Blaid Undebol y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Iwerddon; ymddiswyddodd yn ddiweddarach.
Llyfryddiaeth
Máire a Conor Cruise O'Brien:
Cyfeiriadau