Prifddinas a dinas fwyaf Estonia yw Tallinn. Mae 410,200 o bobl yn byw yno (Gorffennaf 2010). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol Estonia, ar lan Gwlff y Ffindir, sy'n fraich o'r Môr Baltig, tua 80 km (50 milltir) i'r de o Helsinki (Y Ffindir).
Dim ond 54.9% o'r boblogaeth sy'n Estoniaid ethnig. Mae 36.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid ethnig, a thua hanner rheiny heb ddod yn ddinasyddion Estoniaidd mor belled.
Mae Tallinn yn borthladd pwysig. Ceir gwasanaethau fferi sy'n cysylltu'r ddinas a Helsinki ac Ynysoedd Åland yn y Ffindir, Stockholm yn Sweden a Rostock yn yr Almaen. Lleolir prif faes awyr Estonia ger Tallinn a daw nifer o ymwelydd yno o wledydd eraill Ewrop a'r tu hwnt.
Tallinn yw canolbwynt gwleidyddol, ariannol, diwylliannol ac addysgol Estonia. Mae rhai yn cyfeirio ati fel Dyffryn Silicon Ewrop; ceir yno'r nifer uchaf o egin-gwmnïau i bob person yn Ewrop ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol wedi'u sefydlu yno, gan gynnwys Skype. Mae'r sector TGCh yn arbennig o gryf yno, ac mae wedi'i rhestr ymhlith 10 uchaf ar restr dinasoedd digidol Ewrop. Dyma hefyd gartref Canolfan Ragoriaeth Amddiffyniad Seibr NATO.
'Reval' oedd yr enw a roddwyd i ddinas Tallinn o'r 13g hyd 1918 ac am gyfnod byr pan oedd wedi'i meddiannu gan y Natsiaid rhwng 1941 a 1944. Er bod olion o anheddiadau yn yr ardal ers tua 5,000 o flynyddoedd, mae'r cofnod cynharaf o fodolaeth y ddinas yn dyddio yn ôl i 1219, ac yn 1248 y cafodd ei chydnabod yn swyddogol trwy dderbyn breintiau dinesig. Y Daniaid oedd y cyntaf i hawlio perchnogaeth o'r ddinas (Taani linn, sef tref Ddaneg, yw tarddiad yr enw Estoneg), a bu yn nwylo marchogion Ellmynaidd, Swediaid a Rwsiaid yn eu tro wedyn. Roedd lleoliad y ddinas yn cynnig ei hun fel canolfan fasnach, a chynyddodd yn ei phwysigrwydd am y rheswm hwnnw, yn arbennig rhwng y 14eg a'r 16g.
Mae Hen Dref Tallinn yn un o'r dinasoedd canoloesol mwyaf trawiadol yn Ewrop ac mae wedi'i rhestru fel Safle Treftadaeth UNESCO.