Gwleidydd o Sais yw Rishi Sunak (ganwyd 12 Mai 1980) a fu'n brif weinidog y Deyrnas Unedig ac arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng Hydref 2022 a Gorffennaf 2024.[1] Roedd yn Ganghellor Trysorlys y Deyrnas Unedig rhwng Chwefror 2020 a Gorffennaf 2022.[2]
Cafodd Sunak ei eni yn Southampton,[3] yn fab hynaf i Yashvir ac Usha Sunak. Roedd ei dad Yashvir yn feddyg a'i fam Usha yn fferyllydd.[4][5][6] Cafodd ei addysg yng Ngholeg Caerwynt ac yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen. Priododd Akshata Murthy yn 2009.
Fe'i ddewiswyd fel ymgeisydd y Blaid Geidwadol dros etholaeth Richmond (Swydd Efrog) yn Hydref 2014, cyn sedd William Hague ac un o'r cadarnaf i'r Ceidwadwyr yng ngwledydd Prydain. Fe'i etholwyd fel Aelod Seneddol yn etholiad cyffredinol 2015. Daeth yn Ganghellor y Trysorlys yng nghabinet Boris Johnson ar 13 Chwefror 2020.
Ymddiswyddodd fel Canghellor ar 5 Gorffennaf 2022, yn dilyn ffrae am ymddygiad yr aelod seneddol Chris Pincher. Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd ei fod yn anghytuno gyda'r Prif Weinidog, Boris Johnson, ar sut i ddelio gyda'r economi.[2]
Gyrfa
Mae Sunak wedi cael sawl swydd ar draws busnes a gwleidyddiaeth yn ystod ei yrfa.[7]
Cyfeiriadau