Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llangynllo[1] (Saesneg: Llangunllo).[2] Fe'i lleolir ar y B4356 10 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod, 4 milltir i'r gorllewin o Dref-y-clawdd a'r ffin â Lloegr. Llifa Afon Llugwy drwy'r pentref.
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd yr eglwys gan Sant Cynllo. Yn y plwyf ceir sawl ffynnon iachaol, yn cynnwys Ffynnon Lwli ar fferm Ffynnon Wen, Pistyll Cynwy a Ffynnon Haearn.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.