Pentrefan yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin, Powys, Cymru, yw Gaer.[1] Saif yn ardal Brycheiniog ger pentref Tretŵr, ar bwys priffordd yr A40 tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu. Mae'n gorwedd rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain, o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Gerllaw ceir Castell Glas, castell mwnt o godwyd gan y Normaniaid.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
Cyfeiriadau