Cyrhaeddodd milwyr o Normandi Gymru yn 1051, pan ddaeth Ralff o Mantes (nai edward Gyffeswr) yn iarll Henffordd, gan sefydlu rhan o'i fyddin ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.[1] Olynydd brenhinoedd Sacsonaidd oedd Gwilym Goncwerwr, ac felly nid oedd ganddo fryd ar feddiannu Cymru, a phwrpas amddiffynnol oedd i'w gtynlluniau yn gosod ei fyddin ar y ffin hwn.
Bu Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd yn llwyddiannus am gyfnod yn ymladd yn erbyn y Normaniaid, ac yr un fath Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth.
Gwilym II
Nid oedd gan fab Gwilym, sef Gwilym II yr un parch at y Cymry, a gan nad oedd yn anrhydeddu cytundebau ei dad ymestynnodd i mewn i rannau dwyreiniol o Gymru, gan gynnwys ymdrechion Bernard de Neufmarché (c. 1050–c. 1125) a lwyddodd i gipio'r tir o'r ffin hyd at Aberhonddu erbyn 1093. lle cododd gastell iddo'i hun a sefydlu Arglwyddiaeth Brycheiniog er mwyn ceisio rheoli'r ardal. Ymladdodd Rhys ap Tewdwr yn ei erbyn, a bu farw; o hynny ymlaen, cynyddodd gafael y Normaniaid ar ddwyrain Deheubarth. Cododd Arnulf Montgomery gastell ym Mhenfro a phenodi Gerald o Windsor (taid Gerallt Gymro) yn gwnstabl.