Brwydr Aberllech

Brwydr Aberllech
Enghraifft o:brwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1086 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadAberhonddu Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Brwydr rhwng y Normaniaid a Chymry mewn llecyn o'r enw Aberllech, ychydig i'r gogledd o Bontsenni, Sir Frycheiniog, yn 1086 oedd Brwydr Aber Llech (neu Aberllech), pan drechwyd y Normaniaid gan y Cymry. Mae'r union leoliad yn ansicr, ond mae tri lle'n debygol: un yn Sir Fynwy a dau le ym Nheyrnas Brycheiniog. Arweinwyr y Cymry oedd meibion Idnerth ap Cadwgan ap Elystan Glodrydd, sef Gruffudd ac Ifor.[1] Mae'n debyg mai dyma un o brif lwyddiannau'r Cymru wrth drechu'r Normaniaid yn y cyfnod hwn.

Cefndir

Rheolwyd Cymru gyfan gan nifer o frenhinoedd, a gydweithient gyda'i gilydd i amddiffyn eu tir rhag ymosodiadau'r Ffrancwyr, neu'r Normaniaid. Yn araf, dechreuodd y goresgynwyr hyn godi cestyll yn ne Cymru.

Yn 1088 arweiniodd Bernard de Neufmarché (c. 1050–c. 1125) ymosodiad o'i diriogaeth yn Henffordd a Dyffryn Gwy i Gymru. Mae'n bosib ei fod wedi cyrraedd Aberhonddu erbyn 1093, lle cododd gastell iddo'i hun a sefydlu Arglwyddiaeth Brycheiniog er mwyn ceisio rheoli'r ardal. Ymladdodd Rhys ap Tewdwr yn ei erbyn, a bu farw; o hynny ymlaen, cynyddodd gafael y Normaniaid ar ddwyrain Deheubarth.

Yn 1094 ymosododd y Cymry sawl gwaith yn erbyn Bernard de Neufmarché, a bu'n rhaid i frenin Lloegr, William Rufus, gasglu byddin i'w gynorthwyo yn hydref 1095. Aflwyddiannus fu eu hymdrechion er enghraifft gwyddom i'r Cymry eu trechu ym Mrwydr Gelli Carnant. Ceisiodd byddin Normanaidd fynd i gynorthwyo un o'u cestyll (ond nid yw'n cael ei enwi) ac ymosododd y Cymry arnynt, mewn man o'r enw Aberllech.

Brwydrau rhwng y Cymry a'r Eingl-Normaniaid


Y lleoliad

Awgrym diweddar (2017) - a'r mwyaf tebygol - yw llecyn lle ceir tŷ o'r enw "Aber Llech" a leolir yn Nyffryn Cilieni, ychydig i'r gogledd o Bontsenni, Sir Frycheiniog. Ger y tŷ ceir Nant Llech sy'n llifo i mewn i lawr Cwm Llech i mewn i Afon Cilieni (SN 912322).[2] Mae'n bosibl fod y milwyr Normanaidd yn dychwelyd o frwydr arall yn Llandeilo’r Fan i'w castell yn Aberhonddu. Cysylltir yr ardal yma, hefyd gyda Gruffudd ac Ifor, meibion Idnerth, mewn llawer o lawysgrifau.

Barn J. Edward Lloyd yn ei lyfr A History of Wales (1991) oedd fod 'Aber Llech', 'oddeutu tair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Ystradgynlais: mewn man ger Ynyswen lle mae Afon Llech yn llifo i mewn i'r Tawe (SN 833128). Cytuna'r hanesydd David Stephenson gyda Lloyd.

Awgrymodd Theophilus Jones yn 1808 fod 'Aberllech' yn Sir Fynwy.

Y frwydr

Ychydig o fanylion sydd am y lleoliad a'r frwydr, ond mae pob disgrifiad yn nodi i'r Normaniaid gael eu trechu gan y Cymry dan arweiniad Ifor a Gruffudd, meibion Idnerth ap Cadwgan. Nodir hefyd mai tacteg cudd-ymosodiad (neu "rhagodfa") a ddefnyddiwyd gan y Cymry. Mae'r gair 'aber' yn cyfeirio at fan lle mae dwy afon yn cyfarfod, sy'n gliw i leoliad posib y frwydr.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; adalwyd 4 Mehefin 2018.
  2. Aberystwyth LlGC 7860 "Aberllech ar fap o 1793 A. D."