Pentref bychan yng nghymuned Trefeglwys, Powys, Cymru, yw Llawr-y-glyn[1][2] (amrywiadau: Llawryglyn, Llawr y Glyn). Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn tua 10 milltir i'r gorllewin o'r Drenewydd a 5 milltir i'r gorlelwin o Gaersŵs ar lan Afon Trannon, un o ledneintiau Afon Hafren. Mae ffyrdd yn ei gysylltu â Chaersŵs, Trefeglwys a Llanidloes.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]
Ganed yr ysgolhaig llenyddiaeth Charles Ashton (1848-1899) yn y pentref.
Cyfeiriadau