Pentref a chymuned yng ngogledd Powys, Cymru, yw Llanfechain.[1] Fe'i lleolir ar y lôn B4393 9 milltir i'r gogledd-orllewin o'r Trallwng a thua'r un pellter i'r de-orllewin o Groesoswallt, dros y ffin yn Swydd Amwythig.
Mae'n gorwedd ar lan Afon Cain tua hanner ffordd rhwng Llanfyllin a Llansantffraid-ym-Mechain, y ddau bentref cyfagos. Fel yn achos Llansantffraid, fe'i enwir ar ôl hen gantref Mechain.
Mae eglwys Llanfechain wedi'i chysegru i Sant Garmon.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Ganwyd y bardd a golygydd Walter Davies (Gwallter Mechain) yn y plwyf ar 15 Gorffennaf, 1761.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Llanfechain (pob oed) (465) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfechain) (90) |
|
19.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfechain) (150) |
|
32.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfechain) (99) |
|
43.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
5% |
Cyfeiriadau