Roedd y gymuned yn ffynu ar un tro, gyda'i gofaint, tafarndy a siop. Mae'r rhain eisoes wedi cau; tan yn ddiweddar, casgliad o dai yn ymestyn ar hyd y B4404 oedd Llanwrin. Ond yn 2007, dechreuwyd gwaith adeiladu ar dai newydd ger canol y pentref, gyda'r gobaith o adfywio'r ardal leol.
Mae Llanwrin yn enwog yn lleol am ei "Ddyn Gwellt" sy'n ymddangos yn eistedd ar y fainc yng nghanol y pentref rwan ac yn y man. Does neb yn gwybod o ble ddaw na i ble diflanai, ond maent yn ei golli pan nad yw o gwmpas.
Eglwys Sant Ust a Sant Dyfrig yw enw'r eglwys, a saif i'r gogledd-orllewin i'r pentref, ac a adeiladwyd ar ddiwedd y 15g. Cysegrwyd yr eglwys yn wreiddiol i Sant Gwrin. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn 2004 (rhif: 83006). Mae'n nodedig oherwydd ei hoed a chynifer o rannau gwreiddiol ee y to bwaog o dderw, sgrîn y gangell a'i ffenestri lliw hynod.[6] Fe'i hadnewyddwyd yn 1864 gan Benjamin Ferrey.