- Am y pentref o'r un enw yng Nghonwy, gweler Mochdre, Conwy.
Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Mochdre.[1] Saif i'r de-orllewin o'r Drenewydd.
Cysegrwyd yr eglwys i'r Holl Saint. Mae'r to yn dyddio o ddechrau'r 16g, ond ail-adeiladwyd y gweddill yn 1867. Efallai fod cyfeiriad at Fochdre ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy, lle mae Gwydion wedi dwyn moch Pryderi yn aros dros nos rhwng Ceri ac Arwystli.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 482.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Mochdre, Powys (pob oed) (494) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mochdre, Powys) (63) |
|
13.3% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mochdre, Powys) (241) |
|
48.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Mochdre, Powys) (59) |
|
27.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau