Pentref bychan a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cleirwy[1] neu Cleiro (Saesneg: Clyro). Saif yn ardal Maesyfed yn agos i'r ffîn a Lloegr, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o'r Gelli Gandryll a 15 milltir i'r dwyrain o Aberhonddu, ar briffordd yr A438. Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd i Francis Kilvert fod yn gurad yma yn y 1870au, ac ysgrifennu yn ei ddyddiaduron am fywyd y pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[3]
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfrifiad 2011 |
|
|
|
Poblogaeth cymuned Cleirwy (pob oed) (781) |
|
100% |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cleirwy) (67) |
|
8.8% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
19% |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cleirwy) (257) |
|
32.9% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
73% |
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cleirwy) (121) |
|
35.6% |
:Y ganran drwy Gymru |
|
67.1% |
Cyfeiriadau
Dolen allanol