Enwir plwyf Llanwddyn ar ôl Wddyn. Yn ôl traddodiad roedd y sant hwn, sydd fel arall yn anhysbys, yn feudwy a sefydlodd gell yno ac a ymwelai â chell y SantesMelangell dros y bryniau i'r gogledd ym Mhennant Melangell.[3]
Mae’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn berchennog i’r tir o gwmpas Llyn Efyrnwy, ac mae ganddynt 3 cuddfan; 2 ar lannau’r llyn ac un, Coed y Capel, ger yr argae. Mae ganddynt hefyd swyddfa a siop gyferbyn â’r gyddfan Coed y Capel.[4]
Pasiwyd Deddf Liverpool Corporation Waterworks ym 1880, a dechreuwyd gwaith adeiladu argae ym 1881. Dymchwelwyd hen bentref Llanwddyn, ac roedd y llyn yn llawn erbyn Tachwedd 1889. Adeiladwyd pentref newydd gerllaw ar gyfer preswylwyr yr hen bentref, gan gynnwys eglwys newydd, cysegredig i Sant Wddyn. Adeiladwyd gorsaf pŵer hydro-electrig ar gyfer y pentref ym 1902.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.