Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Yr Ystog[1] (Saesneg: Churchstoke[2] neu Church Stoke). Saif y pentref i'r de-ddwyrain o dref Trefaldwyn, yn agos at y ffin a Lloegr, ger cyffordd y priffyrdd A489 ac A490. Mae Afon Camlad yn llifo heibio iddo. Ceir archfarchnad fawr Harry Tuffins yn y pentref, ynghyd ag ysgol gynradd a dwy dafarn.
Heblaw pentref Yr Ystog, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Hyssington a Snead; mae rhan fechan o'r gymuned ar wahan i'r gweddill, i'r de o Drefaldwyn. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,571.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.