- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Garth.
Pentref bychan yng nghymuned Treflys, Powys, Cymru, yw Garth. Fe'i lleolir yng ngogledd ardal Brycheiniog ar y briffordd A483, tua hanner ffordd rhwng Llanwrtyd a Llanfair-ym-Muallt.
Ceir gorsaf reilffordd yng Ngarth, ar Reilffordd Calon Cymru. Garth yw enw'r bryn isel ger y pentref hefyd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]
Cyfeiriadau