Ceir chwedl onomatig sy'n esbonio tarddiad enw'r pentref yn chwedl Math fab Mathonwy, yn y Mabinogi. Mae Gwydion a chwmni o ryfelwyr Gwynedd yn cyrchu llys Pryderi yn Nyfed ac yn dwyn moch lledrithiol Pryderi. Ar eu taith yn ôl i'r gogledd, a rhyfelwyr Dyfed yn dynn ar eu sodlau, arosant mewn sawl llecyn a enwir yn "Fochdref" neu "Fochnant" byth ar ôl hynny. Yr olaf o'r rhain, cyn croesi afon Conwy i Wynedd, yw safle pentref Mochdre:
Ac oddi yna [Mochnant ym Mhowys] y cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buant y nos honno i mewn y dref a elwir etwa ["o hyd"] Mochdref.[3]
Hanes
Mae pentref Mochdre yn rhan o blwyfLlangystennin, ac mae eglwys y plwyf yn adnabyddus fel enghraifft dda o eglwysi Cymreig yr Oesoedd Canol; yn ôl traddodiad mae'n sefyll ar safle'r eglwys gyntaf i gael ei chodi yng Nghymru.
Erbyn heddiw mae Mochdre yn bentref mawr gyda sawl stad o dai diweddar, ystâd ddiwydiannol sylweddol (Parc Busnes Mochdre), tafarn adnabyddus a siopau lleol. Ers peth amser mae'r pentref yn dioddef problemau cymdeithasol o achos yfed ar y stryd gan bobl ifanc a fandaliaeth.
↑Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi, tud. 71. Mewn orgraff ddiweddar.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.