Pentref bychan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Gyffin.[1] (Mae'r enw llawn y Gyffin yn gywirach, ond mae pawb yn ei alw'n "Gyffin".) Fe'i lleolir ar lôn y B5106 tua hanner milltir i'r de-orllewin o dref Conwy, rhwng muriau'r dref honno a Bryn Eithin. Llifa Afon Gyffin ar hyd ochr ogleddol y pentref ar ei ffordd i aberu yn Afon Conwy, gan basio dan hen bont yng nghanol y pentref. Mae'r hen ffordd o Gonwy i Lanrwst yn rhedeg trwy'r pentref.
Hanes
Er nad yw'n fawr o le heddiw a bod y rhan fwyaf o'r tai'n bur ddiweddar, mae gan Gyffin hanes hir. Safai treflan yn y Gyffin cyn i Edward I, brenin Lloegr, godi castell a thref gaerog Conwy. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i Abaty Aberconwy.
Mae Eglwys Gyffin yn hynafol. Fe'i cysgegrir i Sant Bened heddiw ond tybir ei bod wedi'i chysegru i sant lleol yn wreiddiol.
Ganwyd y Dr Richard Davies, a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, yn Gyffin yn y flwyddyn 1501. Plas y Person oedd ei gartref, ar safle ger y rheithordy presennol, ond does dim i'w weld o'r hen dŷ heddiw.
Pobl o Gyffin
Oriel
-
Y Gyffin o Gonwy
-
Eglwys Sant Bened
Cyfeiriadau