Datblygodd Tywyn fel canolfan gwyliau glan môr wrth i boblogrwydd Y Rhyl a'r cyffiniau gynyddu fel cyrchfan twristaidd. Ceir sawl maes carafanau rhwng y pentref a'r traeth, sy'n dywodlyd a braf. Mae nifer o dai a byngalos ar dir gwastad y pentref sydd islaw lefel y môr ar lanw uchel. Gorlifiodd y môr dros y morglawdd rhai blynyddoedd yn ôl gan effeithio ar gannoedd o dai.
Mae llawer wedi ei golli o'r ardal, fel ymhobman, dros yr 20g. Soniodd y dyddiadurwr John (neu Lorrimer) Thomas o Tywyn, unwaith iddo wylio pâr o frych y coed yn codi nyth ac iddo aros nes iddynt ddodwy un wy, wedyn un arall...nes cyrraedd y pump arferol, cyn iddo ddwyn y cwbl ar gyfer ei gasgliad heb feddwl ddwywaith. Yn 1928 ymfalchiodd fod y number of eggs in my collection is 2208 (roedd arferion felly fawr o gymorth mae'n siwr). Yn Foryd Road, Tywyn, cofnododd fras yr yd, gwybedog mannog, a pibyddion y dorlan. Nid oes bras yr ŷd yn unman yng Nghymru bellach, a go brin y bu’r ddau arall ar gyfyl Foryd Road, Tywyn ers degawdau. Dipyn o sgôr i lecyn sydd erbyn hyn wedi colli llawer iawn o'i swyn ar sawl cyfrif[3]