Pentref bychan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cerrigydrudion[1][2] (neu Cerrig-y-drudion). Saif yn ne-ddwyrain y sir yn y bryniau ar lôn yr A5, tua 8 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Corwen. Yn ogystal â'r A5, mae lôn yn cysylltu'r pentref â Rhuthun i'r gogledd-ddwyrain a Dinbych i'r gogledd. Roedd yn Sir Ddinbych gynt.
Mae rhai o'r bythynnod yn y pentref yn dyddio o 1717. Arosodd George Borrow yn nhafarn y Llew Gwyn ar ei ffordd o Langollen ar ei daith trwy Gymru; wrth ymarfer ei Gymraeg efo'r morwynion cafodd ei gyflwyno i Eidalwr ar daith yn y gogledd a oedd wedi dysgu Cymraeg hefyd (neu rywfaint, o leiaf).
Mae eglwys y plwyf yn gysegredig i Fair Fadlen. Yn y bryniau tua milltir i'r de-ddwyrain ceir bryngaerCaer Caradog, ond mae'n annhebygol iawn fod unrhyw gysylltiad rhyngddi â'r Caradog (Caratacus) hanesyddol.
Yn ôl etymoleg boblogaidd mae'r enw yn golygu "Cerrig y Derwyddon", ond y gwir ystyr yw "Cerrig y Dewrion".
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.