Tref hanesyddol a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Dinbych (Saesneg: Denbigh). "Caer fechan" yw ystyr ei enw ac ymddengys gyntaf mewn dogfen yn 1211 gyda'r silafiad: "Dunbeig" ac yna "Tynbey" yn 1230 a "Dymbech" yn 1304-5. Ceir Dinbych y Pysgod yn ne Cymru hefyd.
Yn 1290 derbyniwyd Dinbych fel bwrdeistref, a chafodd y dref gyfan ei chynnwys o fewn muriau allanol y castell. Pan gododd Madog ap Llywelyn a'i wŷr rhwng 1294 a 1295, roedd y dref yng nghanol y gwrthryfel. Llwyddodd Madog i gipio'r castell ym mis hydref 1294 a phan ddaeth catrawd o filwyr Seisnig i'w ailfeddiannu, fe drechedwyd y rheiny hefyd. Ond er hynny, cipiodd Edward I y castell ym mis Rhagfyr.
Yn 1400, ymledodd gwreichion gwrthryfel Glyn Dŵr ar draws y dyffryn ac fel sawl tref arall yn y cyffiniau, llosgwyd y rhannau Seisnig o'r dref i'r llawr, cyn i'r gwrthryfelwyr fynd yn eu blaen i ymosod ar Ruddlan.
Hanes
Tua thri-chwarter milltir i'r de o'r castell presennol y sefydlwyd y gaer yn wreiddiol a hynny ar dir Llywelyn ap Iorwerth a roddodd yn anrheg i'w ferch Gwenllian ac fe elwyd am flynyddoedd fel 'Llys Gwenllian'. (Cyfeirnod OS: SJ06SE1).Yn yr'Hen Ddinbych' codwyd Castell mwnt a beili yno cyn [1][2] yn 1283 y rhoddodd Edward 1af orchymun i godi'r castell presennol.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.