Pentref bychan, cymuned, a phlwyf eglwysig yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Efenechtyd, weithiau Efenechdyd (ynganiad). Saif ar ffordd gefn ychydig i'r de o dref Rhuthun. Mae yma garreg a elwir 'maen camp', sy'n cael ei chadw yn yr eglwys a pharheir gyda'r hen drawddodiad o'i daflu mewn cystadleuaeth.
Credir fod yr enw'n dod o "mynechdid", yn awgrymu cysylltiad â mynachdy. Y sillafiad yn 1254 oedd Y Fenechtid (Eccla de Wenechdit);[1] roedd adeiadau'n perthyn i fynachty yma hyd at y 16g pan drowyd yr adeilad yn fferm laeth. Mae'n bosib fod cysylltiad agos gydag Abaty Glyn y Groes neu Sant Saeran, Llanynys.
Gerllaw mae Tŷ Brith, cartref y bardd ac athro barddol Simwnt Fychan (c. 1530 - 1606) a pherthyn Bryn-llan i'r 17g.
Treuliodd yr hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin Gymreig, Elias Owen (1833-1899) rhan olaf ei oes yn rheithor Efenechtyd.
Eglwys Sant Mihangel
Mae’r fynwent gron a’i choed yw yn nodweddiadol o’i thras Geltaidd ac mae’n bosib i’r eglwys gyntaf ar y safle gael ei sefydlu gan fynachod o gymuned Sant Saeran yn Llanynys: gallai’r enw ‘Efenechtyd’ olygu ‘lle’r mynachod’ (gweler uchod). Mae’r adeilad presennol – sy’n ddim ond ugain troedfedd o led, a’r eglwys ail leiaf yn esgobaeth Llanelwy – yn dyddio o’r 13g mwy na thebyg, ond fe’i adferwyd yn sylweddol ym 1873.
Cysegrir yr eglwys i Sant Mihangel a'r Holl Angylion, ac mae'r bedyddfaen pren oddi mewn iddi'n ddiddorol gan ei bod wedi'i cherfio allan o un darn o dderw ac yn deillio'n ôl i'r 15fed neu’r 16g. Mae’r rheilen furfylchog isel, sydd ger yr allor ac sy’n dyddio o ddiwedd yr oesoedd canol, yn rhan o groglen, ond mae’r ffenestr ddwyreiniol yn hŷn ac efallai’n dyddio o tua 1300.
Ymhlith nodweddion eraill o bwys sy’n perthyn i gyfnod diweddarach y mae darnau prin o furlun Cymreig o’r Deg Gorchymyn (o’r cyfnod Elisabethaidd neu Jacobeaidd) a chofeb pren i Catherine Lloyd (1810) sy’n cynnwys ceriwbiaid a phenglog ac esgyrn croes. Mae’r gofeb Sioraidd i Joseph Conway’n cynnwys arfbais deuluol ‘dyn du’: gwelir pennau tebyg ar gatiau ei dy (preifat), Plas-yn-Llan, ychydig gamau o giât yr eglwys. Enw’r garreg gron ger y fedyddfaen yw ‘Maen Camp’, a ddefnyddid gynt mewn ‘campau’ neu chwaraeon lleol ar Ddydd Sant Mihangel, 29ain Medi. Arferai Samsoniaid y pentref ymdrechu i’w thaflu’n ôl dros eu pennau.
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.