Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Rhuallt (ynganiad). Fe'i lleolir ar yr A55 tua 2 filltir i'r dwyrain o Lanelwy wrth droed Bryniau Clwyd. Mae'n adnabyddus i deithwyr yng ngogledd Cymru am fod y ffordd yn dringo'n syrth o'r pentref i'r bwlch yn y bryniau.